Creisis (cyfres deledu)

Cyfres drama ddeledu Gymreig

Rhaglen ddrama deledu yw Creisis. Ysgrifennwyd y gyfres gan Anwen Huws (Y Golau) ac fe'i cynhyrchwyd gan Boom Cymru a gyda buddsoddiad gan Cymru Greadigol. Mae'r ddrama yn dilyn bywyd Jamie Morris sy'n nyrs seiciatrig sydd a'i fywyd yn dadfeilio. Mae'n gweithio mewn uned gofal iechyd yng nghymoedd de Cymru.

Creisis
Genre Drama
Serennu Gwydion Rhys
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Boom Cymru
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 31 Ebrill 2024 (2024-04-31)

Ffilmiwyd y gyfres are leoliad ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd.

Mae 6 pennod yn y gyfres gyntaf. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm ar S4C.[1]

Cast golygu

Penodau golygu

# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr S4C [2]
1"Pennod 1"Rhys PowysAnwen Huws31 Mawrth 2024 (2024-03-31)I'w gyhoeddi
Mae Jamie yn nyrs seiciatryddol o Bontypridd a'i fywyd yn dadfeilio. Wrth i'r tensiynau adref ac yn y gwaith ddechrau fynd yn drech nag e, at bwy fydd e'n troi; at ei deulu, neu at Barry, yr hen ffrind sy'n hoffi ei dynnu tuag at y tywyllwch?
2"Pennod 2"Rhys PowysAnwen Huws7 Ebrill 2024 (2024-04-07)I'w gyhoeddi
Mae pecyn o gyffuriau wedi mynd ar goll yn yr uned ac mae Jamie yn chwilio ledled Pontypridd am bacedi newydd - ond pam bod e mor awyddus i'w ffeindio? Beth mae Jamie'n guddio?
3"Pennod 3"Rhys PowysAnwen Huws14 Ebrill 2024 (2024-04-14)I'w gyhoeddi
Mae diwrnod cwest wedi cyrraedd ac mae Jamie'n gwneud penderfyniad mawr er mwyn sicrhau bod e'n gallu bod yn gwbl onest yn y llys, er gwaethaf protestiadau Huw Donald. Mae Paula yn troi fyny yn y llys ac yn creu anhrefn llwyr - nes bod y barnwr yn bygwth ei harestio.
4"Pennod 4"Sion IfanAnwen Huws21 Ebrill 2024 (2024-04-21)I'w gyhoeddi
Mae Jamie'n torri'r rheolau yn ei ymgais i geisio gofalu am Paula. Rhaid iddo ddod o hyd i'r unig beth y mae e'n wybod wneith dawelu ei meddwl hi. Pan mae Jamie'n penderfynu mynd i chwilio am Gwyn am Nudd, y dyn digartref, daw'n amlwg bod rheswm pwysig ganddo i gadw llygaid barcud ar yr hen ddyn.
5"Pennod 5"Sion IfanAnwen Huws28 Ebrill 2024 (2024-04-28)I'w gyhoeddi
Penderfyna Jamie droi dudalen newydd fel dyn sengl - adref ac yn y gwaith - ond am ba mor hir all y Jamie newydd ymdopi' Pan mae Lili yn gweld Jamie a Natalie gyda'i gilydd, mae Jamie yn benderfynol o gael Lili i gau ei cheg.
6"Pennod 6"Sion IfanAnwen Huws5 Mai 2024 (2024-05-05)I'w gyhoeddi
Mae Jamie a Paula ar ffo o'r uned greisis. Maen nhw mewn cae diarffordd a does gan Paula ddim cof sut y cyrhaeddodd hi yno. Mae Jamie'n esbonio popeth iddi am sut mae staff yr uned wedi bod yn plotio yn eu herbyn nhw.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) S4C orders new drama ‘Creisis’ from Boom Cymru. televisual.com (15 Chwefror 2024). Adalwyd ar 25 Mawrth 2024.
  2. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol golygu