Myrrhis odorata
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Myrrhis
Enw deuenwol
Myrrhis odorata
Carolus Linnaeus
Cyfystyron
  • Chaerophyllum odoratum Crantz
  • Lindera odorata Asch.
  • Scandix odorata L.
  • Selinum myrrhis E.H.L.Krause<

[1]

Planhigyn blodeuol ydy Creithig bêr sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Myrrhis odorata a'r enw Saesneg yw Sweet cicely. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cegiden Bêr, Cegid Wen, Cegiden Wen, Creithig, Creithig Bêr, Gwyn y Dillad a Sisli Bêr.

Tarddiad y gair am y genws, Myrrhis, ydyw'r Groeg 'myrrhis' [μυρρίς], sef olew ag iddo arogl hyfryd, a nodweddiadol. Ystyr yr enw Lladin am y rhywogaeth (odorata) yw 'gydag arogl'.[2][3]

Gall dyfu i uchder o hyd at 2 m [6 tr 6 mod] yn ddibynol ar leoliad, y pridd, y golau a'r amgylchedd. Mae'r dail yn debyg i ddail rhedyn gyda 2-4-pinnate, wedi'u rhannu ac yn 50 cm o hyd, gyda patsis lliw hufen. pan dorrir y planhigyn, ceir arogl anis cryf. Mae'r blodau'n wyn-hufen tua 2–4 mm ar eu traws, ac yn glystyrau mawr sy'n blodeuo o Fai i Fehefin.[4] Mae'r ffrwyth yn hir ac yn fain: 15–25 mm wrth 3–4 mm.[5][6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Plant List". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-13. Cyrchwyd 2014-12-27.
  2. M. Grieve A Modern Herbal
  3. Germot Katzers Spice Pages
  4. "Plants for a future". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 2014-12-27.
  5. Stace, C.A. (2010). New flora of the British isles (arg. Third). Caergrawnt.: Cambridge University Press. t. 450. ISBN 9780521707725.
  6. "Flora of Northern Ireland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-09. Cyrchwyd 2014-12-27.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: