Periffereiau Groeg
Rhennir Gwlad Groeg yn 13 o raniadau o'r enw Periffereiau (Groeg: Περιφέρειες, "Periffereies"). O'r rhain, mae naw ar y tir mawr a phedwar ar yr ynysoedd.
Yn draddodiadol, hyd at 1987, roedd deg rhanbarth, a cheir cyfeiriadau at y rhain o hyd, er nad ydynt yn unedau gweinyddol, mwyach.
Map | Rhif | Peripheri | Prifddinas | Arwynebedd | Poblogaeth |
---|---|---|---|---|---|
1 | Attica | Athen | 3,808 km² | 3,761,810 | |
2 | Canolbarth Groeg | Lamia | 15,549 km² | 605,329 | |
3 | Canolbarth Macedonia | Thessaloniki | 18,811 km² | 1,871,952 | |
4 | Creta | Heraklion | 8,259 km² | 601,131 | |
5 | Dwyrain Macedonia a Thrace | Kavála | 14,157 km² | 611,067 | |
6 | Epiros | Ioannina | 9,203 km² | 353,820 | |
7 | Ynysoedd Ionia | Corfu | 2,307 km² | 212,984 | |
8 | Gogledd Aegea | Mytilene | 3,836 km² | 206,121 | |
9 | Peloponnesos | Kalamata | 15,490 km² | 638,942 | |
10 | De Aegea | Ermoupoli | 5,286 km² | 302,686 | |
11 | Thessalia | Lárisa | 14.037 km² | 753,888 | |
12 | Gorllewin Groeg | Patras | 11,350 km² | 740,506 | |
13 | Gorllewin Macedonia | Kozani | 9,451 km² | 301,522 | |
- | Mynydd Athos (Ymreolaethol) | Karyes | 390 km² | 2,262 |