Pentref yn Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ydy Crimdon.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Durham.

Crimdon
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Durham
Daearyddiaeth
SirSwydd Durham
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.728°N 1.255°W Edit this on Wikidata
Cod OSNZ480372 Edit this on Wikidata
Map

Fe'i lleolir ar arfordir Môr y Gogledd, rhwng Blackhall Rocks a Hartlepool ar y ffordd A1086. Roedd Crimdon gynt yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i lowyr a'u teuluoedd o drefi a phentrefi cyfagos, oherwydd ei fod yn fforddiadwy i weithwyr incwm isel. Yn ystod y 1960au, bu gan gwmni Butlins ddiddordeb mewn prynu parc gwyliau Crimdon Dene gan Gyngor Dosbarth Easington, ond penderfynodd y cyngor i beidio â'i gwerthu iddynt gan fod Butlins yn bwriadu codi tâl ar bobl i ddefnyddio'r traeth.

Gwelodd y 1970au a'r 80au ddirywiad Crimdon fel cyrchfan wrth i boblogrwydd teithio tramor gynyddu. Erbyn hyn mae'r parc gwyliau yn eiddo i gwmni Park Resorts ond nid oes llawer o gyfleusterau yno bellach. Yn y gorffennol bu ffair a phafiliwn yno. Mae Park wedi adeiladu tŷ clwb newydd gyda bar, bwyty, a phwll nofio dan do ers prynu'r parc gwyliau gan Gyngor Easington. Mae yna hefyd ddau faes gwyliau llai yn y fro Parc Carafanau Crimdon-Denemouth a Pharc Evergreen.

Gwarchodfa natur leol yw Crimdon Dene sy'n sefyll rhwng yr A1086, Traphont Crimdon a'r traeth. Mae Crimdon Beck yn rhedeg drwy afon Dene, sydd, fel rheol, yn cynnwys gwely corsen sych mewn mannau yn ystod yr haf. Bellach mae mor wennoliaid yn nythu ar y traeth ac mae'r ardal wedi dod yn boblogaidd gyda gwylwyr adar wrth i dwristiaeth wanio.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan UK Towns List Archifwyd 2013-06-25 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 3 Mai 2013
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Durham. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato