Swydd Durham (awdurdod unedol)

awdurdod unedol yn Lloegr

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Swydd Durham.

Swydd Durham
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal cyngor sir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSwydd Durham Edit this on Wikidata
Poblogaeth526,980 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 2009 (newidiadau strwythurol i lywodraeth leol Lloegr yn 2009) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Durham
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,225.9685 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBwrdeistref Fetropolitan Gateshead, Dinas Sunderland, Northumberland, Bwrdeistref Hartlepool, Bwrdeistref Darlington, Bwrdeistref Stockton-on-Tees, Ardal Eden, Cumbria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.7606°N 1.4656°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000047 Edit this on Wikidata
GB-DUR Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Durham County Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 2,226 km², gyda 530,094 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Hartlepool, Bwrdeistref Stockton-on-Tees, Bwrdeistref Darlington a Gogledd Swydd Efrog i'r de, Cumbria i'r gorllewin, Northumberland i'r gogledd, a Môr y Gogledd i'r dwyrain.

Awdurdod unedol Swydd Durham yn sir seremonïol Swydd Durham

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel sir an-fetropolitan â chanddi wyth ardal an-fetropolitan dan ei rheolaeth (Ardal Sedgefield, Dinas Durham, Ardal Chester-le-Street, Ardal Derwentside, Ardal Easington, Ardal Teesdale, Ardal Wear Valley a Bwrdeistref Darlington). Fodd bynnag ym 1997 daeth Bwrdeistref Darlington yn awdurdod unedol annibynnol, ac yn 2009 daeth y sir ei hun yn awdurdod unedol hefyd, a diddymwyd yr hen ardaloedd an-fetropolitan.

Rhennir yr awdurdod yn 136 o blwyfi sifil, gyda nifer o ardaloedd di-blwyf. Mae ei bencadlys yn ninas Durham. Mae aneddiadau eraill yn yr awdurdod yn cynnwys trefi Barnard Castle, Bishop Auckland, Consett, Crook, Chester-le-Street, Easington, Ferryhill, Newton Aycliffe, Peterlee, Seaham, Sedgefield, Shildon, Spennymoor, Stanhope, Stanley, Tow Law, Willington a Wolsingham.

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 23 Gorffennaf 2020