Cristina Peri Rossi

Llenor straeon byrion, nofelydd, a bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg yw Cristina Peri Rossi (ganwyd 12 Tachwedd 1941) sy'n nodedig am ei ffuglen sy'n ymdrin â themâu metaffisegol, dirfodaeth, a rhywedd.

Cristina Peri Rossi
GanwydCristina Peri Rossi Edit this on Wikidata
12 Tachwedd 1941 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái, Sbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Athrofa Athrawon Prifysgol Artigas Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, bardd, cyfieithydd, nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Medalla Delmira Agustini, Gwobr Miguel de Cervantes Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cristinaperirossi.es Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montevideo i deulu o dras Eidalaidd. Astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol y Weriniaeth, Montevideo. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, y casgliad o straeon Viviendo, yn 1963. Merched ar ymylon cymdeithas sy'n byw mewn unigrwydd yw prif gymeriadau'r straeon hyn. Denodd ragor o sylw yn sgil y casgliad Los museos abandonados (1968) a'i nofel gyntaf, El libro de mis primos (1969), gweithiau sy'n nodweddiadol o ffuglen ddirfodol.[1] Ymhlith ei gweithiau eraill yn nghyfnod cynnar ei gyrfa mae Indicios pánicos (1970) a'r gyfrol o gerddi Evohé (1971).

Gadawodd Wrwgwái yn 1973, wedi i'r unbennaeth ddod i rym, ac ymgartrefodd hi yn Sbaen. Gweithiodd fel newyddiadurwraig yn Barcelona, a chyhoeddwyd ei gwaith yn Diario 16, El Periódico, ac Agencia Efe.[2] Yn ei ffuglen a'i barddoniaeth, ysgrifennodd Peri Rossi am alltudiaeth ac ymddieithriad, er enghraifft yn Descripción de un naufragio (1975), Diáspora (1976), El museo de los esfuerzos inútiles (1983), ac Una pasión prohibida (1986). Llenor toreithiog ydyw, ac ymhlith ei weithiau eraill o nod mae La tarde del dinosaurio (1976), La nave de los locos (1984) a La última noche de Dostoievski (1992).

Mae nifer o'i weithiau yn ymwneud â themâu ffeministaidd a rhywioldeb, gan gynnwys Solitario de amor (1988), Fantasías eróticas (1991) a Por fin solos (2004), ac yn aml yn mynegi erotigiaeth lesbiaidd.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Magdalena García Pinto, "Peri Rossi, Cristina (1941–)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 12 Mehefin 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Cristina Peri Rossi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Mehefin 2019.

Darllen pellach golygu

  • Uberto Stabile, Cristina Peri Rossi (Valencia: Quervo, 1984).