Cristiolus

sant Cymreig o'r 6ed ganrif

Sant Cymreig oedd Cristiolus (fl. 6g). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 3 Rhagfyr.

Cristiolus
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl3 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadHywel fab Emyr Llydaw Edit this on Wikidata

Yn ôl traddodiad roedd Cristiolus yn un o feibion Hywel fab Emyr Llydaw ac felly'n frawd i Sulien, Rhystud a Derfel Gadarn, ac efallai Dwywe (Dwywau) hefyd. Mae rhai achau yn ei wneud yn fab i Hywel Fychan fab Hywel fab Emyr Llydaw ac yn gefnder i Sant Cadfan.

Cysegrir eglwys Llangristiolus, Môn, ynghyd ag Eglwyswrw a Penrhydd (Sir Benfro), i Gristiolus.