Croeserw

pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot

Stad o dai yng Nghymer, Castell-nedd Port Talbot yw Croeserw. Mae ganddi boblogaeth amcangyfrifedig o tua 1,602.[1] Mae'n bosib bod yr enw (croes + erw) yn cyfeirio at y croesfannau lle mae pennau cymoedd Afan a Llynfi yn cwrdd.

Croeserw
Mathpentref, ystad dai Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,608 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaCymer, Caerau Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.65°N 3.64°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS867953 Edit this on Wikidata
Cod postSA13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Lleoliad

golygu

Lleolir ar ochr bryn yng Nghwm Afan. Mae hi rhwng 196 a 299 metr uwch lefel y môr.

Fe'i henwir ar ôl Fferm Croeserw a'r ffatri wlân, sy'n dyddio 'nôl i'r oesoedd cyn-ddiwydiannol- o bosib Oes Elisabeth. Yn y 19eg ganrif, cafodd Hen Groeserw ei ddatblygu fel rhan o'r ehangiad mwyngloddio glo i rannau uchaf Cwm Afan. Er mwyn cwrdd â'r galw am ynni, ac i wasanaethu'r mwyngloddiau cynyddol, datblygwyd Croeserw Newydd i gynnig cartrefi i'r glowyr a'u teuluoedd.

Dymchwelwyd hen Ffermdy Croeserw ar gyfer lledu'r A4107 ym 1982. Heddiw, mae heneb garreg yn nodi'r fan lle roedd y fferm. Ar ôl i'r pyllau glo gau, bu dirywiad economaidd yng Nghroeserw. Ers hynny, mae'r pentref wedi dirywio oherwydd diweithdra a lefelau uchel o salwch. Yn 2004, cafodd Croeserw ei henwi fel y lle salaf ym Mhrydain gan Wales Online, gan fod 2 ym mhob 5 o oedolion sy'n byw yno yn hawlio budd-dal salwch.[2] Er gwaethaf hynny, mae'n ymddangos bod nifer o breswylwyr Croeserw yn meddwl yn dda am y pentref.

Mae Croeserw yn cynnwys mynwent, swyddfa bost, siopau, tafarn, ysgol gynradd,[3] ystâd ddiwydiannol a chanolfan gymunedol.[4] Mae datblygiadau cyfagos yn cynnwys Canolfan Ymwelwyr Afan Argoed[5] ac Amgueddfa Glowyr De Cymru.[6]

 
Tafarn Croeserw

Ers y 1990au, bu sawl menter i adeiladu ffermydd gwynt mewn ardaloedd o gwmpas Croeserw. Gwrthwynebwyd hyn gan rai sefydliadau fel Grŵp Gweithredu Glyncorrwg[7] sy'n ofni bydd ffermydd gwynt yn difetha'r ardal naturiol a thanseilio ymdrechion i hybu twristiaeth.

Trafnidiaeth

golygu

Mae gan Croeserw wasanaeth bws rheolaidd i Ben-y-bont ar Ogwr a Maesteg.

Mae nifer o ffyrdd yn arwain allan o Groeserw, yn cynnwys yr A4063 i Gaerau ac yr A4107 i Gwmafan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Croeserw (Neath Port Talbot, Wales / Cymru, United Kingdom) - Population Statistics, Charts, Map, Location, Weather and Web Information". www.citypopulation.de. Cyrchwyd 2021-11-17.
  2. WalesOnline (2004-07-23). "Britain's sickest villagers: 'We love it here'". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-17.
  3. "Croeserw Primary School | Estyn". www.estyn.gov.wales. Cyrchwyd 2021-11-17.
  4. "Canolfan Menter Gymunedol Croeserw". www.npt.gov.uk. Cyrchwyd 2021-11-17.
  5. "Natural Resources Wales / Afan Forest Park - Visitor Centre, near Port Talbot". naturalresources.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-17.
  6. "South Wales Miners Museum | Home". SWMINERSMUSEUM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-17.
  7. "Glyncorrwg Action". www.glyncorrwgaction.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-18. Cyrchwyd 2021-11-17.