Math o grwst menynaidd a haenog yw croissant. Mae'n tarddu o Awstria a'i enw'n cyfeirio at ei siâp cilgant nodweddiadol. Mae croissants yn cael eu gwneud o haenau toes sydd wedi'i lefeinio â burum. Mae'r toes yn cael ei haenu â menyn, ei rolio a'i blygu sawl gwaith, ac yna ei rolio yn ddalen, gan ddefnyddio techneg sy'n cael ei galw'n lamineiddio. Mae'r broses yn arwain at wead haenog, yn debyg i grwst pwff.

Croissants wedi'u pobi

Roedd bara siâp cilgant yn cael ei wneud ers cyfnod y Dadeni, ac mae'n bosib bod cacennau siâp cilgant yn dyddiol yn ôl i'r henfyd.[1] Mae Croissants wedi cael ei gynhyrchu ym mhoptai a phâtisseries Awstria a Ffrainc ers amser maith. Yn niwedd y 1970au, roedd datblygiad toes a oedd wedi'i gynhyrchu mewn ffatrïoedd, a croissants a oedd wedi'i paratoi o flaen llaw yn barod i'w pobi ac y gellid eu rhewi, yn galluogi iddynt gael eu gwerthu fel bwyd cyflym y gellid ei bobi yn ffres. Roedd y croissanterie yn ymateb Ffrengig i fwyd cyflym Americanaidd,[2] ac o 2008 ymlaen roedd 30-40% o'r croissants a werthwyd mewn poptai Ffrengig a patisseries yn cael eu pobi o does a oedd wedi'u dadrewi.[3]

Roedd y kipferl, rhagflaenydd i'r croissant, yn cael ei goginio yn Awstria cyn o leiaf y 13g.[4] Mae rhai Eifftiaid yn honni y gall y kipferl fod wedi tarddu yn ei dro o'r meshaltet feteer, crwst a fyddai'n gyfarwydd i'r Eifftiaid.[5][6]

Gellir dyddio tarddiad y croissant ei hun hyd at o leiaf 1839 (1838, yn ôl rhai) pan sefydlodd Awst Zang, swyddog magnelau ym myddin Awstria, bopty Fiennaidd ("Boulangerie Viennoise") yn 92, rue de Richelieu ym Mharis. Daeth y becws hwn, a oedd yn pobi rhai danteithion o Fienna gan gynnwys y kipferl a'r dorth Fiennaidd, yn boblogaidd tu hwnt, ac ysbrydolwyd nifer o fusnesau eraill a oedd yn ei efelychu. Mae'r cyfeiriadau cynharaf at croissants (sy'n hysbys, o leiaf) yn y 1850au cynnar, ond ni cheir unrhyw rysáit wedi'i argraffu ar gyfer y croissant yn y ffurf sy'n gyfarwydd heddiw mewn unrhyw lyfr ryseitiau Ffrengig cyn dechrau'r 20g.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Qu'est-ce que la Bible? d'après la nouvelle philosophie allemande", translated by August Hermann Ewerbeck. 1850. t. 327. Hebrew women, in the time of Jeremiah, made in honor of the pagan goddess Astarte (queen of heaven, queen of the moon) cakes, probably in the form of a crescent.
  2. "Living: Croissant Vite"". 8 Medi 1980. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-25. Cyrchwyd 2019-03-30. Unknown parameter |gwefan= ignored (help)
  3. Bertrand Rothé, "Il est bon mon croissant (surgelé)" Archifwyd 2012-07-19 yn Archive.is, Bakchich Info, 11 Mawrth 2008
  4. "Jacob Grimm and Wilhelm Grimm, Deutsches Wörterbuch von Jacob Grimm und Wilhelm Grimm 11". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-01. Cyrchwyd 2019-03-30.
  5. عبدالقادر, اسراء (June 8, 2017). "حكاية أكلة.."الفطير المشلتت" من قرابين لآلهة الفراعنة لأكلة "الصباحية"". اليوم السابع. Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  6. Marzouk, Sarah (February 12, 2017). "A Brief History of Fiteer, Egypt's Pizza-Like Pastry". The Culture Trip. Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  7. Académie d'agriculture de France , Mémoires (Paris: Bouchard-Huzard, 1850) Rhan Gyntaf, t.   588