Cronfa Dolwen
cronfa ddŵr yng Nghonwy
Cronfa ddŵr yn Sir Conwy yw Cronfa Dolwen a leolir yn y bryniau isel hanner milltir i'r gorllewin o bentref Llanefydd.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanefydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0732 km² |
Uwch y môr | 168 metr |
Cyfesurynnau | 53.220806°N 3.539084°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Mae'n llyn artiffisial a greuwyd trwy godi argae ar nant sy'n llifo o'r cwm bychan i gyfeiriad y gogledd i ymuno yn afon Elwy tua thair milltir i'r dwyrain o bentref Llanfair Talhaearn. Mae'r ffrwd yn llifo trwy gronfa arall o faint llai, sef Cronfa Plas-uchaf, hanner milltir i'r gogledd.