Llanfair Talhaearn

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfair Talhaearn[1] (hefyd Llanfair Talhaiarn).[2] Roedd yn Sir Ddinbych cynt. Mae'n sefyll ar groesffordd y briffyrdd A548 a'r A544, tua 5 milltir i'r de o Abergele.

Llanfair Talhaearn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,070 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,252.23 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.221°N 3.612°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000124 Edit this on Wikidata
Cod OSSH927700 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Llifa Afon Elwy drwy'r pentref sy'n gorwedd rhwng bryniau coediog gyda Moel Unben (358 m) yn sefyll allan i'r de.

Hanes golygu

Enwir y pentref ar ôl Sant Talhaearn (c. 6g). Yn Eglwys Fair ceir cist fedyddio dan-ddaear.

 
Siop y pentre, Llanfair Talhaearn.

Priododd Twm o'r Nant ei gariad Elizabeth Hughes yn Eglwys Fair ar 19 Chwefror 1763, mewn gwasanaeth a arweinwyd gan y bardd Ieuan Brydydd Hir, cyfaill Twm, oedd yn gurad y plwyf ar y pryd.

I'r gogledd-orllewin ceir plasdy Garthewin, cartref hynafol y Wynniaid a lleoliad theatr Gymraeg arloesol a fu'n llwyfan i berfformiadau cyntaf o rai o ddramâu Saunders Lewis.

Pobl o Lanfair Talhaearn golygu

  • John Jones (Talhaiarn). Ganed y bardd 'Talhaiarn' yn Nhafarn yr Harp yn y pentref yn 1810. Ar ôl cyfnod hir oddi cartref dychwelodd i'w bentref genedigol a bu farw yn Nhafarn yr Harp yn 1869.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Talhaearn (pob oed) (1,070)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Talhaearn) (465)
  
44.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Talhaearn) (665)
  
62.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Talhaearn) (142)
  
32.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.