Cronfa Llwyn-onn
llyn yn yn ardal y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cronfa ddŵr yn ne Cymru yw Cronfa Llwyn-onn, a leolir yn ardal y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r rhan ogleddol yn gorwedd ym Mhowys a'r rhan ddeheuol ym Mwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful.
![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.797222°N 3.440833°W ![]() |
Rheolir gan | Dŵr Cymru ![]() |
![]() | |
Mae'r llyn 150 erw yn rhan o gyfres o dair cronfa a godwyd ar Afon Taf Fawr ger ei tharddle i gyflenwi dŵr i gymoedd De Cymru. Yn uwch i fyny'r afon ceir Cronfa'r Bannau a Chronfa Cantref; Cronfa Llwyn-onn yw'r isaf a'r mwyaf o'r tri llyn hyn. Rhed y ffordd A470 heibio i'r llyn.