Cronfeydd dŵr Cymru

trosolwg system gronfa ddŵr Cymru

Mae nifer o gronfeydd dŵr wedi eu hadeiladu yng Nghymru dros y blynyddoedd, yn enwedig yn yr 20g. Mae'r ffaith bod hi'n bwrw cymaint o law yn un rheswm am hynny.

Codwyd rhai cronfeydd at wasanaeth cymunedau lleol yng Nghymru ond codwyd eraill, yn cynnwys rhai o'r rhai mwyaf, at gyflenwi dŵr i drefi poblog Lloegr ac yn aml yr oedd yna wrthwynebiad cryf a gwleidyddol yn erbyn eu hadeiladu. Wedi bodd Capel Celyn yn y 1960au, mae boddi rhai cymoedd yng Nghymru er mwyn cyflenwi dŵr i lefydd yn Lloegr wedi parhau'n bwnc llosg. Yn ddiweddar (2023), roedd cyngor Powys yn trafod codi treth ar ddŵr sy'n cael ei gludo i Loegr yn dilyn darpar brosiect newydd i gludo dŵr o Lyn Llanwddyn (Llyn Efyrnwy) i dde-ddwyrain Lloegr.

Mae cronfeydd dŵr Cymru yn cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru ers 2013 tra bod polisi dŵr Cymru yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru. Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dŵr dros rhan fwyaf o Gymru heblaw am ran yn y gogledd-ddwyrain a reolir gan Hafren Dyfrdwy.

Hanes golygu

Dyddiadau allweddol golygu

Gogledd Cymru golygu

 
Llyn Melynllyn

Yn Eryri, defnyddiwyd nifer o lynnoedd naturiol presennol i ddarparu cyflenwadau dŵr lleol ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. O fewn y Carneddau, codwyd argaeau ar Lyn Dulyn a Llyn Melynllyn yn 1881 a 1887 yn y drefn honno, i ddarparu dŵr i Landudno.[1] Codwyd argae ar Lyn Anafon yn 1931 er mwyn caniatáu cyflenwad dŵr i Abergwyngregyn, Llanfairfechan a’r ardaloedd cyfagos.[2]

De Cymru golygu

Agorodd Gwaith Dŵr Corfforaeth Caerdydd Gronfa Ddŵr Llanisien a Chronfa Ddŵr Llys-faen ym 1886. Yn ddiweddarach fe gomisiynodd y gwaith o adeiladu tair cronfa ddŵr yng Nghwm Taf i gyflenwi dŵr i’r brifddinas. Cronfa Ddŵr y Bannau oedd y gyntaf, rhwng 1893 a 1897. Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Cantref rhwng 1886 a 1892 a dechreuwyd codi'r argae’r fwyaf o’r tair, Cronfa Ddŵr Llwyn-on ym 1911 gyda’r cyflenwad dŵr yn dechrau yng nghanol y 1920au.[3]

Cwblhawyd y gwaith o adeiladu Cronfa Ddŵr Crai ym 1907 a rhoddodd ddŵr i Abertawe.[4] Agorwyd Cronfa Ddŵr Llandegfedd gan Gorfforaeth Casnewydd ym mis Mai 1965, yn gorchuddio 434 erw (1.76 km sgwâr). Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol i gyflenwi dŵr i Waith Dur Spencer yn Llanwern.[5]

Cwblhawyd Cronfa Ddŵr Grwyne Fawr, yr unig gronfa ddŵr yn ardal y Mynyddoedd Duon gan Fwrdd Dŵr Abertyleri a’r Cylch yn 1928, i gyflenwi dŵr i wahanol drefi yn sir draddodiadol Sir Fynwy. Adeiladwyd cronfa ddŵr yng Nghwmtyleri fel rhan o'r cynllun. Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Blaenycwm i’r gogledd-orllewin o Frynmawr yn wreiddiol fel cyflenwad dŵr ar gyfer Gwaith Haearn Nant-y-glo ond fe’i hehangwyd ar gyfer cyflenwad cyhoeddus yn ystod yr 20fed ganrif.

Adeiladwyd Llyn Brianne ar ddiwedd y 1960au i ddarparu cyflenwad dŵr ychwanegol i Dde Cymru trwy waith trin dŵr Felindre. Y bwriad gwreiddiol oedd ychwanegu at gyflenwadau dŵr i Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.[6]

Cyfrifoldeb golygu

Datganoli golygu

 
Adeilad Senedd Cymru

Datganolodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (DLlC 2006) rhan fwyaf o bwerau y diwydiant dŵr i Gynulliad Cymru ar y pryd. Roedd y pwerau hyn yn cynnwys cyflenwad dŵr, rheoli adnoddau dŵr gan gynnwys cronfeydd dŵr, ansawdd dŵr, cynrychioli defnyddwyr, rheoli perygl llifogydd ac amddiffyn yr arfordir.[7]

Newidiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Ddeddf Cymru 2017 sy’n cynnwys datganoli pwerau dŵr a charthffosiaeth fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Silk.[7]

Cafodd pwerau ymyrryd ysgrifennydd gwladol Cymru dros faterion dŵr trawsffiniol eu diddymu a’u disodli gan y protocol dŵr yn 2018.[7]

Cyfoeth Naturiol Cymru golygu

Mae rheoli ansawdd dŵr cronfeydd dŵr ac adnoddau dŵr yn gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â’r trwyddedau tynnu dŵr perthnasol a’r trefniadau tynnu i lawr y cytunwyd arnynt. Mae materion sy'n ymwneud â'r diwydiant dŵr yn gyffredinol wedi'u datganoli i'r Senedd. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar y cymalau cadw yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (DLlC 2006).[8]

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli adnoddau dŵr yng Nghymru a dyma’r corff rheoleiddio at y diben hwn.[9] Ar 01 Ebrill 2013, cymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldebau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.[10][11] Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd dadreoleiddio’r diwydiant dŵr, ac eithrio defnyddwyr diwydiannol mawr sy’n yfed dros 50 miliwn litr o ddŵr yn flynyddol.[12]

Cyflenwad golygu

 
Arwydd Dwr Cymru, Llyn Tecwyn Uchaf

Dŵr Cymru yw’r cwmni dŵr (a charthffosiaeth) sy’n cyflenwi’r rhan fwyaf o Gymru a hefyd yn cyflenwi rhai ardaloedd ar y ffin â Lloegr. Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dros dair miliwn o bobl. Ers 2001, mae Dŵr Cymru yn eiddo i Glas Cymru, sef cwmni un pwrpas sy’n rheoli ac yn ariannu Dŵr Cymru fel “cwmni cyfyngedig trwy warant”. Nid oes ganddo unrhyw gyfranddalwyr, ac mae gwargedion ariannol yn cael eu hail-fuddsoddi yn y cwmni.[13]

Cafodd yr ardaloedd o Gymru a wasanaethwyd yn flaenorol gan Severn Trent a Dyffryn Dyfrdwy yng ngogledd ddwyrain Cymru eu huno ar ôl i Dee Valley Water gael ei brynu gan Severn Trent yn 2017 am £84 miliwn. Disodlodd Hafren Dyfrdwy (sy’n eiddo i Severn Trent) yr ardaloedd hyn yn 2018 ac mae’n cyd-fynd â’r ffin genedlaethol, gan wasanaethu 115,000 o bobl yng Nghymru.[14]

Boddi cymoedd golygu

 
Cofiwch Dryweryn

Ym 1891, boddwyd pentref Llanwddyn i gyflenwi dŵr i Lerpwl trwy godi argae ar Afon Efyrnwy. Dyma oedd y gronfa ddŵr fwyaf a wnaed gan ddyn yn Ewrop ar y pryd.[15]

Ym 1964, cafodd trigolion cymuned fechan Aberbiga, a oedd yn cynnwys chwe fferm, gan gynnwys Gronwen, Eblid, Ystradynod, Pen y Rhynau a Bwlch y Gle eu troi allan o'u cartrefi i greu cronfa ddŵr Clywedog i gyflenwi canolbarth Lloegr. Ymhlith y rhai a gafodd eu troi allan roedd rhieni'r delynores Elinor Bennett a theulu'r tenor Aled Wyn Davies. Roedd protestiadau yn erbyn y boddi'r pentrefi ar y pryd.[16][17]

Yn gynnar yn y 1960au, bu'n rhaid i 70 o bobl adael eu cartrefi yng Nghapel Celyn cyn boddi'r dyffryn cyfan, ac adeiladwyd cronfa ddŵr Llyn Celyn er mwyn cyflenwi dŵr i Lerpwl, Lloegr, 60 milltir (95 km) i ffwrdd.

Symudodd Corfforaeth Birmingham cant o ddeiliaid o'u cartrefi yng Nghwm Elan, Powys, er mwyn adeiladu'r cronfeydd dŵr yno.[18][19]

Allgludo dŵr i Loegr golygu

Yn gyfan gwbl, gellir cyflenwi hyd at 243 biliwn litr o ddŵr o Gymru i Loegr bob blwyddyn. Mae dŵr o Gwm Elan yn cael ei gyflenwi i Birmingham, tra bod dŵr o Lyn Efyrnwy yn cael ei gyflenwi i Swydd Gaer a Lerpwl. Mae gan Ddŵr Cymru drwydded i roi 133 biliwn litr yn flynyddol o gronfeydd dŵr Cwm Elan i gwsmeriaid Severn Trent. Mae United Utilities yn gallu cymryd hyd at 252 miliwn o litrau bob dydd o Lyn Efyrnwy ym Mhowys (sy’n eiddo i Severn Trent) a 50 miliwn litr bob dydd o Afon Dyfrdwy.[20]

Yn 2022, dywedodd yr Athro Roger Falconer y dylai Lloegr "dalu am y dŵr", gyda'r refeniw yn cael ei fuddsoddi yn ôl mewn cymunedau lleol yng Nghymru. Ychwanegodd, "Byddem yn cyflenwi'n uniongyrchol o dan amodau sychder i dde ddwyrain Lloegr a byddwn yn gweld hwn fel olew Cymru ar gyfer y dyfodol o ran refeniw."[21]

Mae cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, John Ball wedi awgrymu bod dŵr o Gymru yn cael ei gyflenwi i Loegr werth tua £2bn yn flynyddol. Amcangyfrifwyd hefyd y gallai ffi echdynnu isel o 0.1c y litr gynhyrchu £400 miliwn i Gymru.[22]

Allgludo pellach i Loegr golygu

Yn 2022, dywedodd John Armitt nad oedd cwmnïau dŵr Lloegr eisiau adeiladu cronfeydd dŵr newydd a all fod yn amhoblogaidd gyda chymunedau. Ychwanegodd fod Severn Trent (Hafren Dyfrdwy) a Thames Water yn trafod cyflenwad dŵr o Gymru i dde Lloegr, gan gynnwys dŵr o Lyn Efyrnwy a gyflenwir trwy bibellau neu gamlas i fasn y Tafwys.[23]

Ym mis Chwefror 2023, dywedodd Cyngor Powys ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ynghylch caniatâd i godi treth ar gyflenwadau dŵr i Loegr. Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ei bod hi "yn hollol y tu ôl" i gynlluniau cynnig y cyngor, gan ychwanegu eu bod yn "gam i'r cyfeiriad cywir".[24]

Ym mis Mawrth 2023, dywedwyd bod United Utilities, Severn Trent Water a Thames Water yn cynllunio piblinell newydd ar gyfer cyflenwad o hyd at 155 miliwn litr o ddŵr y dydd o Lyn Efyrnwy ym Mhowys i dde ddwyrain Lloegr.[25]

Diogelwch a methiannau golygu

 
Llyn Eigiau

Ym 1925, methodd argae Llyn Eigiau, ac o ganlyniad cwympodd argae ail gronfa ddŵr (Coedty) i lawr yr afon, yn sir Gaernarfon (y Conwy fodern) a chollwyd 16 o fywydau ym mhentref Dolgarrog. Cyfrannodd y drychineb at basio’r Ddeddf Cronfeydd Dŵr (Darpariaethau Diogelwch) ym 1930. O dan y ddeddfwriaeth hon, roedd yn ofynnol i bob perchennog cronfeydd dŵr yng Nghymru a Lloegr eu harolygu gan beiriannydd sifil â chymwysterau addas, os oedd y cynhwysedd (capasiti) yn fwy na phum miliwn galwyn (22,700 metr ciwbig). Gosododd Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ddyletswyddau pellach ar berchnogion ac awdurdodau lleol o ran diogelwch y rhai â chynhwysedd o fwy na 25,000 o fetrau ciwbig. Cymerodd Asiantaeth yr Amgylchedd gyfrifoldebau diogelwch ym mis Medi 2004 a daeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff amgylcheddol cyfrifol yn 2013.[26][27]

Ynni trydan dŵr golygu

 
Gorsaf Bŵer Dinorwig

Gwaith ynni dŵr Rheidol yw'r gwaith ynni dŵr mwyaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy ers 1962, gan ddefnyddio glaw o'r mynyddoedd cyfagos. Mae'r gwaith yn cynnwys cyfuniad o gronfeydd dŵr, argaeau, piblinellau, traphontydd dŵr a gorsafoedd pŵer, dros 162 cilomedr sgwâr gan gynhyrchu tua 85 GWh y flwyddyn a all bweru tua 12,350 o gartrefi.[28] Agorodd pwerdy Ffestiniog yng Ngwynedd yn 1963, a chomisiynwyd gwaith pwmpio dŵr Dinorwig yn 1984. Mae gorsaf bŵer Ffestiniog yn storio ac yn cynhyrchu 360 MW tra bod Dinorwig yn cynhyrchu 1.7 GW.[29]

Ers 2014 mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi datblygwyr a grwpiau cymunedol bach i adeiladu 15 o gynlluniau hydro ar raddfa fach yng Nghymru, a all gynhyrchu 1300kW o ynni bob blwyddyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi gorffen adeiladu cynllun hydro graddfa fach 17kW Garwnant yn 2017.[30]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geraint Roberts (1995). The Lakes of Eryri. Gwasg Carreg Gwalch. t. 256. ISBN 0863813380.
  2. Water, Dŵr Cymru Welsh. "Llyn Anafon". Dŵr Cymru Welsh Water. Cyrchwyd 2023-03-09.
  3. Bowtell, Harold D; Hill, Geoffrey (2006). Reservoir Builders of South Wales. Industrial Railway Society. ISBN 978-0-9540726-2-9.
  4. "Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2023-03-09.
  5. "Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2023-03-09.
  6. "Llyn Brianne Dam". Institute of Civil Engineers. Cyrchwyd 8 October 2020.
  7. 7.0 7.1 7.2 "Y Diwydiant Dŵr yng Nghymru - Briff Ymchwil" (PDF). t. 4.
  8. "Dŵr- beth sydd wedi ei ddatganoli?". law.gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-03. Cyrchwyd 2023-02-03.
  9. "Rheoli Dŵr". naturalresources.wales. Cyrchwyd 2023-02-04.
  10. "Welsh Government | Natural Resources Wales". 2014-05-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31. Cyrchwyd 2023-02-08.
  11. "Natural Resources Wales / Our roles and responsibilities". naturalresources.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-08.
  12. "Is the Welsh water market deregulated?". AquaSwitch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-08.
  13. "The Water Industry in Wales" (PDF). t. 7.
  14. "The Water Industry in Wales" (PDF). t. 7."The Water Industry in Wales" (PDF). p. 7.
  15. Khalil, Hafsa (2022-08-16). "Drought reveals Welsh village submerged by reservoir in 19th century". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-10.
  16. "Clywedog dam: Drought uncovers flooded family home". BBC News (yn Saesneg). 2022-10-14. Cyrchwyd 2023-03-10.
  17. Forgrave, Andrew (2022-09-03). "Huge 'sadness' as singer visits farm drowned by reservoir and exposed by drought". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-10.
  18. "UK heatwave: How much water does Wales pump to England?". bbc.co.uk. BBC. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  19. "Cronfeydd Dŵr Cymru". Casgliad y Werin. Cyrchwyd 2 September 2020.
  20. "UK heatwave: How much water does Wales pump to England?". BBC News (yn Saesneg). 2018-07-28. Cyrchwyd 2023-03-09.
  21. "Ystyried dŵr glaw yn 'olew Cymru' yn sgil newid hinsawdd". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-03-09.
  22. Forgrave, Andrew (2023-03-05). "Huge pipeline plan to take water from Wales to London nears critical decision". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-09.
  23. "'Work already begun' to transfer water from Wales to drought-hit England says National Infrastructure boss". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-08-19. Cyrchwyd 2023-03-09.
  24. "Powys council plan to tax firms for rainwater sparks row". BBC News (yn Saesneg). 2023-02-21. Cyrchwyd 2023-03-09.
  25. Forgrave, Andrew (2023-03-05). "Huge pipeline plan to take water from Wales to London nears critical decision". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-09.Forgrave, Andrew (2023-03-05). "Huge pipeline plan to take water from Wales to London nears critical decision". North Wales Live. Retrieved 2023-03-09.
  26. "Delivering benefits through evidence: Lessons from historical dam accidents" (PDF). Assets Publishing Service. Environment Agency. Cyrchwyd 11 September 2020.
  27. "Ein Swyddogaethau a'n Cyfrifoldebau". naturalresources.wales. Cyrchwyd 2023-02-08.
  28. "Rheidol Visitor Centre and Power Station".
  29. "Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2016" (PDF). t. 35.
  30. "Ynni Dŵr ar Raddfa Fach". naturalresources.wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-01. Cyrchwyd 2023-02-23.