Crugiau Boncath
Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Boncath, yng nghymuned Boncath, Sir Benfro; cyfeiriad grid SN206347.
Math | crug crwn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Boncath |
Gwlad | Cymru |
Cofrestrwyd y crug ar ochr ddwyreiniol y Freni Fawr gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: PE290.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Mae'n mesur 9 metr mewn diamedr wrth hanner metr gyda modrwy neu goron o gerrig (hyd at 3 metr) yn ei amgylchynnu ar ffurf cylch sydd a'i ddiamedr yn 17m. Darganfuwyd wrn a oedd yn cynnwys llwch dynol yma pan archwiliwyd y crug yn y 19eg ganrif.[2]
Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[3]
Ail grug
golyguCeir ail grug ar ochr gogledd-orllewinol y mynydd, ar gyfeirnod grid: SN202349. Mae hwn hefyd wedi ei gofrestru gan Cadw; rhif SAM: PE291.[1] Mae'n 1.5m o uchder ac fel y crug cyntaf (uchod) darganfuwyd wrn dal lludw dynol yma yn y 19eg ganrif.
Gweler hefyd
golyguMathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cofrestr Cadw.
- ↑ Crug dwyreiniol; gwefan Coflein.[dolen farw]
- ↑ "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-09.