Crugiau Llanddunwyd

Crugiau crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Llanddunwyd, yng nghymuned Llanddunwyd, Bro Morgannwg; cyfeiriad grid ST036750. "Maes yr Hwyaid" ydy un o'r mwyaf o'r crugiau, sy'n 11.4 metr o ddiametr ac a gloddiwyd yn archaeolegol rhwng 1970 a 1975. Darganfuwyd crochenwaith sy'n dangos i'r Rhufeiniaid a Chymry'r Oesoedd Canol hefyd ei ddefnyddio dros y canrifoedd.

Crugiau Llanddunwyd
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanddunwyd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: GM321.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Dau grug arall golygu

Ceir dau grug arall gerllaw, ar cyfeiriad grid ST041749. Cofrestrwyd y crugiau hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM: GM390.[1] Maent i'w canfod 300 metr i'r gogledd o "Tair Onnen".[3]

Gweler hefyd golygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-04.
  3. Gwefan Coflein[dolen marw]
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.