Crugiau Mynydd Eglwyseg

Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Mynydd Eglwyseg, ar lethrau Mynydd Eglwyseg yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ231463.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE066.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Carnedd yw term Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru am y crug crwn hwn.[2] Mae'n mesur 13 metr mewn diamedr a'i uchder yn 1.2m. Ceir nifer o henebion tebyg yn y cyffiniau.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[3]

Crugiau cyfagos golygu

Ceir nifer o henebion tebyg yn y cyffiniau. Mae crug crwn bychan i'w weld gerllaw: Cyfeirnod OS SJ22494646, sy'n mesur 6 metr wrth 0.7m. Ceir hefyd crug crwn yn SJ23134629, sy'n mesur 3.5 metr wrth 0.75, sy'n ei wneud yn un o'r lleiaf drwy Gymru.

Gweler hefyd golygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-07.
  3. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato