Pump crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Tir Lan, yng nghymuned Treharris, Merthyr Tudful; cyfeiriad grid ST095993. Bellach, dim ond 4 sydd yma oherwydd effaith aredig. Mae diamedr pob un rhwng 7 a 12 metr a'u huchder rhwng 0.6 ac 1.8 metr.

Crugiau Tir Lan
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTreharris Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM270 Edit this on Wikidata

Cofrestrwyd y crugiau hyn dan un rhif SAM gan Cadw, sef: GM270.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd golygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-05.