Cumberland
sir hanesyddol Lloegr
Sir hanesyddol yng ngogledd-orllewin Lloegr oedd Cumberland. Roedd ganddi swyddogaeth weinyddol o'r 12g hyd at 1974. Roedd Northumberland i'r dwyrain, Swydd Durham i'r de-ddwyrain, Westmorland a Swydd Gaerhirfryn i'r de, a siroedd yr Alban yn Swydd Dumfries a Swydd Roxburgh i'r gogledd. Roedd yn sir weinyddol rhwng 1889 a 1974 (ac eithrio Caerliwelydd a ddaeth yn fwrdeistref sirol ym 1914) ac mae bellach yn rhan o Cumbria.
Math | siroedd hanesyddol Lloegr |
---|---|
Poblogaeth | 306,144 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lloegr |
Sir | Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,516 mi² |
Yn ffinio gyda | Swydd Dumfries, Swydd Roxburgh, Northumberland, Swydd Durham, Westmorland, Swydd Gaerhirfryn |
Cyfesurynnau | 54.75°N 3°W |