Curigwen Lewis
actores a aned yn 1905
Roedd Curigwen Lewis (1 Tachwedd 1905 – 17 Chwefror 1992) yn actores o Gymraes.
Curigwen Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1905 |
Bu farw | 17 Chwefror 1992 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Cafodd ei geni yn Llandrindod, fel Martha Curigwen Lewis. Ym 1939 priododd yr actor Andrew Cruickshank.[1] Roedd ganddyn nhw ddau o blant[2]
Ymddangosodd Lewis gyda Chwmni Repertory Birmingham a Chwmni Old Vic.[3]
Ymddangosodd ar y teledu yn Choir Practice (1949) a Pride and Prejudice (1938). Yn y ffilm 1954 John Wesley, chwaraeodd hi rôl Susanna Wesley, mam John a Charles Wesley. Ym 1949, chwaraeodd ran flaenllaw Bathsheba Everdene yn Far From the Madding Crowd, rhaglen radio BBC.[4]
Bu farw yn Westminster, Llundain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "A Forgotten Radnorian - Curigwen Lewis". Radnorian. 22 February 2009. Cyrchwyd 23 Ebrill 2017.
- ↑ "Curigwen Lewis". Omnilexica.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-25. Cyrchwyd 23 Ebrill 2017.
- ↑ "A Forgotten Radnorian-Curigwen Lewis". Tredelyn Blogspot. Cyrchwyd 23 Ebrill 2017.
- ↑ "Curigwen Lewis in 'FAR FROM THE MADDING CROWD'". BBC Genome. Cyrchwyd 23 Ebrill 2017.