Porthllechog
Pentref bychan a bae yng nghymuned Amlwch, Ynys Môn, yw Porthllechog[1][2] neu Porth Llechog ( ynganiad ) (Saesneg: Bull Bay). Saif ar arfordir gogledd yr ynys, ychydig dros filltir i'r gogledd-orllewin o dref Amlwch.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4194°N 4.3722°W ![]() |
Cod OS | SH424940 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae bae Porth Llechog yn ffurffio harbwr naturiol ar arfordir creigiog y rhan yma o'r ynys. Diau i'r porth gael ei ddefnyddio am ganrifoedd, ond cymharol diweddar yw'r pentref bychan sydd wedi tyfu yno. Mae'r dafarn Bull Bay yn boblogaidd. Ceir traeth o gerrig mân sy'n denu ymwelwyr a physgotwyr.
Rhed y ffordd A5025 trwy'r pentref, gan ei gysylltu ag Amlwch i'r de-ddwyrain a Chemaes i'r gorllewin.
Ceir cofnodion am gymuned ganolesol ger y bae o'r enw 'Llechog', a fu'n rhan o gwmwd Twrcelyn, cantref Cemais.[3] Er nad oes sicrwydd, mae'n bosibl fod y bardd a brudiwr canoloesol Adda Fras yn frodor o Lechog. Porth y gymuned fechan honno oedd Porth Llechog yn wreiddiol.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
- ↑ A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 51.
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele