Hen ddiwydiannau gwledig
Rhestr o hen ddiwydiannau gwledig:
- Maelierwr: trafaeliwr a oedd yn gwerthu nwyddau megis ŷd a blawd
- Ffeltiwr: gwneuthurwr hetiau ffelt
- Llindy: lle i droi llin yn edafedd i'w nyddu a'i weu
- Saer gwellt: ef a wnâi goleri hesg i geffylau, cadeiriau gwellt a chychod gwenyn
- Turnal neu saer gwyn: ei waith o oedd gwneud llestri llaeth, y trwnsiwr menyn, y sgimer, y noe, cawgiau, y gwpan glust, llwyau pren, a'r printar menyn.
- Cwper: gwneuthurwr tybiau menyn, y gunog odro a'r cawswellt ayb drwy durnio pren
- Töwr: dynion oedd y rhain a fedrai doi to gwellt Cwm Eithin 101
- Mwsoglu: ef a feddai'r grefft o wasgu mwsog i mewn i dyllau mewn waliau carreg y tai rhag oerfel y gaeaf
- Torri mawn: wedi torri sypiau o fawn, a'u sychu, fe'u rhoid ar y tân
- Torri cerrig: ar y ffordd (neu'r tyrpeg y gwneid hyn
- Gyrru gwyddau: ddiwedd haf arferid yrru'r gwyddau ar hyd y ffordd i Loegr i'w gwerthu ar gyfer y Nadolig - Cwm Eithin (tud 123
- Gyrru gwartheg: cyn amser y trên a'r au yn yr haf a'r hydref anfonid llawer o wartheg i Gaint a mannau eraill i'w pesgi ar gyfer marchnadoedd Llundain
- Pedoli gwartheg: Y grefft o roi pedolau ar garnau meddal gwartheg cyn eu cerdded ar y ffordd galed
Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|
Llyfryddiaeth
golyguCwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython 1931.