Cwmni Theatr Maldwyn
Cwmni theatr gerdd amatur yn sir Drefaldwyn yw Cwmni Theatr Maldwyn. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol fel Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Maldwyn 1981. Sylfaenwyr y cwmni oedd Derec Williams, Linda Gittins a'r Prifardd Penri Roberts, oedd hefyd yn gyfrifol am gyfansoddi’r sioeau.[1][2][3]
Cynyrchiadau
golygu- Y Mab Darogan (1981), sioe sy’n portreadu hanes Owain Glyndŵr.
- Y Cylch
- Y Llew a’r Ddraig
- Myfi Yw, oratorio am hanes y Pasg
- Pum Diwrnod o Ryddid (1988), sioe am hanes gwrthryfel y Siartwyr yn Llanidloes ym 1839
- Heledd (1997), sioe yn ail-greu hanes y dywysoges Heledd
- Ann! (2003), sioe am yr emynyddes Ann Griffiths
- Gwydion (2015), sioe yn seiliedig ar hanes Gwydion fab Dôn a Blodeuwedd
Ysgol Theatr Maldwyn
golyguSefydlwyd Ysgol Theatr Maldwyn gan yr un unigolion yn 2004, fel ysgol berfformio ar gyfer pobl ifanc y canolbarth.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-02. Cyrchwyd 2017-06-22.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-29. Cyrchwyd 2017-06-22.
- ↑ https://maes-e.com/viewtopic.php?t=1316