Ann! (sioe gerdd)

sioe gerdd

Sioe Gerdd Gymraeg yw Ann!. Ysgrifennwyd gan Gwmni Theatr Maldwyn, sef Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003 am hanes yr emynyddes ifanc o Ddolwar Fach, Ann Griffiths.

Ann!
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Perfformwyd y sioe gyntaf ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar y 7fed o Awst, 2003 o flaen cynulleidfa orlawn o 3500 o fobl. Aeth y Cwmni wedyn ar daith ar draws Gymru gan berfformio yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno; Theatr Hafren, Y Drenewydd; Pafiliwn Rhyngwladol Llangollen a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Recordwyd y Sioe ar deledu ym mhafiliwn rhyngwladol Llangollen yn Hydref 2003 a darlledwyd ar S4C yn Rhagfyr 2003. Lansiwyd CD o Ann! yng Ngorffennaf 2004 dan label Sain.

Cynhyrchwyd Ann! gyda chast o dros 200 o gantorion gyda'r prif rannau yn cael eu perfformio gan Sara Meredydd - Ann, Aled Wyn Davies - John Hughes, Geraint Roberts - Y Ficer, ac Edryd Williams - gwr Ann.

Hon oedd cynhyrchiad olaf Cwmni Theatr Maldwyn.

Disgograffi

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato