Derec Williams

Athro o Gymro a sefydlydd cwmni theatr Maldwyn

Athro ac un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn oedd Derec Williams (3 Tachwedd 194927 Mai 2014).

Derec Williams
Ganwyd3 Tachwedd 1949 Edit this on Wikidata
Amlwch Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 2014 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, athro Edit this on Wikidata
Am y darlledwr, gweler Deryk Williams

Fe'i ganwyd yn Amlwch, Ynys Môn a bu'n byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala ers blynyddoedd. Bu Derec yn athro mathemateg yn Llanidloes ac yn Ysgol y Berwyn, Y Bala. Sefydlodd Theatr Maldwyn gyda ei ffrind, y prifardd Penri Roberts a Linda Gittins, yn 1981.

Bu farw yn sydyn yn 2014 gan adael ei wraig Ann a thri o blant - Branwen, Meilir ac Osian.[1] Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Eleth, Amlwch Dydd Iau, 5 Mehefin 2014 am 12.30 o’r gloch cyn symud i Amlosgfa Bangor am 2.15yp.[2]

Mae ei blant wedi dilyn trywydd cerddorol hefyd. Bu'r tri yn cydweithio i ysgrifennu, cyfansoddi a chyfarwyddo sioe ieuenctid Dyma Fi i'w berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd 2014 ond gohiriwyd y perfformiad oherwydd marwolaeth eu tad. Mae Branwen ac Osian yn aelodau o Siddi, Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog, a Meilir yn actor a chanwr.[3]

Theatr Derek Williams

golygu

Enwyd canolfan adloniant ar safle Ysgol Godrau'r Berwyn yn Theatr Derek Williams ar ei ôl. Mae'r lleoliad yn dangos dramâu a cherddoriaeth Cymraeg a Saesneg a hefyd ffilmiau a digwyddiadau cymdeithasol a chymunedol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Teyrngedau i Derec Williams sydd wedi marw yn 64 oed , BBC Cymru, 28 Mai 2014. Cyrchwyd ar 24 Mai 2016.
  2. "Click here to view the tribute page for Derek WILLIAMS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-18.
  3. 'Yn y gwaed' , BBC Cymru, 9 Mai 2014. Cyrchwyd ar 24 Mai 2016.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.