Is Cennen

(Ailgyfeiriad o Cwmwd Is Cennen)

Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Bychan yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Is Cennen. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Gorweddai Is Cennen yn rhan ddeheuol y Cantref Bychan. Ffiniai â Cwmwd Perfedd, i'r gogledd, yn y Cantref Bychan, rhan o deyrnas Gŵyr i'r de, Cydweli i'r de-orllewin, ac a chymydau Gwidigada, Catheiniog a Maenor Deilo yn Y Cantref Mawr i'r gogledd.

Gorweddai'r cwmwd ar lan ddeheuol Afon Tywi rhwng Afon Cennen i'r gogledd a rhannau isaf Afon Llwchwr i'r de. Roedd yn cynnwys Castell Carreg Cennen, un o gestyll cryfaf tywysogion Deheubarth.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.