Cwmwd Perfedd
- Am y cwmwd o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Perfedd (cwmwd). Gweler hefyd Perfedd (gwahaniaethu).
Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Bychan yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Cwmwd Perfedd. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.
Gorweddai Cwmwd Perfedd yng nghanol y Cantref Bychan. Ffiniai â chymydau Is Cennen, i'r de, a Hirfryn, i'r gogledd, yn y Cantref Bychan, â chymydau Maenor Deilo a Mallaen i'r gogledd yn y Cantref Mawr, rhan o deyrnas Gŵyr i'r de, a Chantref Mawr Brycheiniog i'r dwyrain.
Gorweddai'r cwmwd rhwng Afon Tywi a'r Mynydd Du. Roedd yn cynnwys Myddfai, safle llys lleol a chartref Meddygon Myddfai