Mae Cwpan Calcutta yn cael ei gyflwyno'n flynyddol i enillydd y gêm rygbi'r undeb rhwng yr Alban a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Dyma'r hynaf o nifer o gystadlaethau unigol sy'n cael eu cynnal o dan ymbarél y Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sydd hefyd yn cynnwys: Tlws y Mileniwm (rhwng Lloegr ac Iwerddon), Quaich y Canmlwyddiant (rhwng yr Alban ac Iwerddon), Tlws Giuseppe Garibaldi (rhwng yr Eidal a Ffrainc) a'r Auld Alliance (rhwng yr Alban a Ffrainc).

Cwpan Calcutta
Chwaraeon Rygbi'r undeb
Sefydlwyd 1879
Gwledydd  Lloegr
 Yr Alban
Pencampwyr presennol  Yr Alban
Gwefan Swyddogol sixnationsrugby.com
Calcutta Cup, England vs Scotland.jpg
Cwpan Calcutta

Ar Ddydd Nadolig 1872, chwaraewyd gêm o rygbi yn Calcutta rhwng 20 o chwaraewyr yn cynrychioli Lloegr a 20 yn cynrychioli'r Alban. Cymaint oedd llwyddiant y gêm fel y penderfynwyd ffurfio Clwb Calcutta ym mis Ionawr 1873.

Ymunodd y Clwb â'r Rugby Football Union (RFU) ym 1874, a bu'n ffyniannus am gyfnod, ond gwelwyd gostyngiad yn ei aelodaeth pan orfodwyd y clwb i gau'r bar rhydd, a bu'n anodd denu rhagor o aelodau newydd am nad oedd yr hinsawdd yn mor addas ar gyfer rygbi ag ydoedd i rai chwaraeon eraill fel tenis a polo. Penderfynodd yr aelodau ddiddymu'r Clwb ond, er mwyn parhau â'i enw, tynnwyd yr arian (a oedd mewn Rupees Arian) o'r banc, eu toddi a'u troi'n gwpan i'w gyflwyno i'r RFU gyda'r ddealltwriaeth y byddai cystadleuaeth amdano yn flynyddol.

Y cais gwreiddiol oedd i'r Cwpan gael ei gyflwyno i enillydd cystadleuaeth rhwng clybiau, tebyg i Gwpan FA ym myd pêl-droed. Gwrthodwyd y syniad hwnnw, a phenderfynwyd ei gyflwyno'n wobr i enillydd gêm flynyddol rhwng yr Alban a Lloegr. Chwaraewyd y gêm Cwpan Calcutta gyntaf yn Raeburn Place, Caeredin, ar 10 Mawrth 1879 a diweddodd yn gyfartal. Ni chafodd y Cwpan ei gyflwyno i'r naill dîm na'r llall y diwrnod hwnnw, a Lloegr a'i enillodd am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol.

Erbyn hyn, os yw'r gêm yn gyfartal, fel ag y gwelwyd yn 2019 pan orffennodd y gêm gyda sgôr o 38-38, mae'r Cwpan yn aros gyda pha bynnag wlad oedd y ddiwethaf i'w ennill, sef yr Alban yn yr achos hwnnw.

Mae'r Cwpan ei hun yn grefftwaith Indiaidd, wedi'i addurno â chobraod fel dolenni ac eliffant ar ei gaead. Mae'n 18 modfedd (45 centimedr) o uchder. Mae'r gwreiddiol mewn cyflwr bregus iawn ac erbyn hyn mae gan Loegr a'r Alban atgynhyrchiadau o'r cwpan sydd wedi'u creu gan ddefnyddio technoleg fodern.