Adrie Visser
Seiclwraig ffordd proffesiynol o'r Iseldiroedd ydy Adrie Visser (ganwyd 19 Hydref 1983, Hoorn. Yr Iseldiroedd). Mae Visser yn byw yn Wieringerwerf erbyn hyn.
Adrie Visser | |
---|---|
Ganwyd | 19 Hydref 1983 Hoorn |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | seiclwr trac, seiclwr cystadleuol, cyclo-cross cyclist |
Taldra | 176 centimetr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | AA Drink-leontien.nl, Liv Racing TeqFind, Velocio-SRAM, Sunweb Women, Team SD Worx-Protime, Farm Frites - Hartol |
Dechreuodd ei gyrfa proffesiynol yn 2001, gorffenodd yn ail ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr Iseldiroedd, daeth yn bmed ym mhencampwriaethau'r Treial Amser. Enillodd ei theitlau cyntaf ar y trac yr un flwyddyn, gan ddod yn Bencampwriaeg Cenedlaethol Treial Amser 500 m a Sbrint, cymerodd y fedal arian yn y ras bwyntiau. Ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Trexlertown, Pennsylvania, Yr Unol Daleithiau, daeth yn seithfed yn y teial amser 500 m ac wythfed yn y pursuit a'r sbrint.
Enillodd y fedal efydd ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Stuttgart yn 2003. Enillodd Bencampwriaethau Cenedlaethol Ras Bwyntiau, Scratch a Pursuit hefyd. Enillodd ei chystadleuaeth cyntaf yn rasus Cwpan y Byd Trac yn Sydney, gan ennill y ras scratch, daeth yn 10fed yn yr un ras ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Melbourne wythnos yn ddiweddarach. Ei champwaith cyntaf ar y ffordd pan enillodd y grys las ar gyfer sbrintiau a enillodd yn ras y Eumakumeen Bira yn Mehefin 2004. Mis yn ddiweddarach enillodd ei ras ffordd cyntaf yn Alblasserdam.
Yn ôl ar y trac yn ddiweddarach yn 2004, enillodd dri teitl cenedlaethol ar y trac unwaith eto (pwyntiau, pursuit a scratch). Cynyrchiolodd Yr Iseldiroedd yn ras bwyntiau Gemau Olympaidd 2004, gan ddarfod yn yr 11fed safle.
Ym Mhencampwriaethau'r Byd ym Manceinion yn 2005, gorffennodd tu allan i'r medalau yn y bedwerydd safle yn y ras scratch, pumed yn y ras bwyntiau a seithfed yn y pursuit. Enillodd rasus ffordd Omloop Middag-Humsterland, Profronde van Stiphout a ras yn Dalen yn Mehefin 2005. Oherwydd hyn, dewiswyd hi i gynyrchiolo ei gwlad ym Mhencampwriaetha Ras Ffordd y Byd am y tro cyntaf, a gorffennodd yn 84ydd safle yn y ras a gynhaliwyd yn Madrid. Enillodd ei ail ras yng Nghwpan y Byd Trac ym Manceinion, gan ennill y ras scratch unwaith eto cyn mynd ymlaen i amddiffyn ei thair teitl cenedlaethol.
Dechreuodd 2006 yn dda wrth i Visser ennill ras Egmond-Pier-Egmond ym mis Ionawr. Enillodd ras ffordd Oud Vossemeer ym mis Mawrth. Gorffennodd yn 7fed ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd y Byd, a 9fed yn y Treial Amser. Rhwng 15 Gorffennaf a 1 Awst enillodd bedwar ras ffordd yn (Ochten, Barendrecht, Alblasserdam a Surhuisterveen). Dewisodd hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Egon van Kessel, Visserr i gynyrchioli ei gwlad unwaith eto ym Mhencampwriaethau Ras y Ffordd y Byd yn dilyn y canlyniadau da yma.
Ar y 31 Mawrth 2007, cymerodd Visser y fedal efydd yn ras scratch race ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Palma de Mallorca. Pythefnos yn ddiweddarch enillodd ras Gwpan y Byd Ffordd gan groesi'r linell gyntaf yn y Ronde van Drenthe.
Canlyniadau
golygu- 2001
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr Iseldiroedd
- 1af Treial Amser 500 m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 5ed Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser yr Iseldiroedd
- 2il Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- Treial Amser 500 m, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2003
- 3ydd Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2004
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Cymal Sydney, Ras Scratch Cwpan y Byd Trac
- 1af Crys Las, Ras Ffordd Eumakumeen Bira
- 1af Ras Ffordd Alblasserdam
- 2005
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Cymal Manceinion, Ras Scratch Cwpan y Byd Trac
- 2006
- 1af Ras Ffordd Egmond-Pier-Egmond
- 1af Ras Ffordd Oud Vossemeer
- 1af Ras Ffordd Ochten
- 1af Ras Ffordd Barendrecht
- 1af Ras Ffordd Alblasserdam
- 1af Ras Ffordd Surhuisterveen
- 7fed Pencampwriaethau Ras Ffordd y Byd
- 9fed Pencampwriaethau Treial Amser y Byd
- 2007
- 1af Ras Cwpan y Byd Ffordd, Ronde van Drenthe
- 3ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
Dolenni allanol
golygu- (Iseldireg) Adrie Visser (website)
- (Iseldireg) Team DSB Bank