Cwtiad y traeth

rhywogaeth o adar
Cwtiad y traeth
Oedolyn mewn plu haf yn Fflorida
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Arenaria
Rhywogaeth: A. interpres
Enw deuenwol
Arenaria interpres
(Linnaeus, 1758)

Aderyn rhydiol o deulu'r Scolopacidae yw cwtiad y traeth (Arenaria interpres; hefyd hutan y dŵr, hutan y môr). Mae'n nythu ar y twndra, ger y môr fel arfer, yn rhanbarthau arctig Ewrasia a Gogledd America.[1] Mae'n treulio'r gaeaf ar hyd arfordiroedd ar draws y rhan fwyaf o'r byd; mae i’w weld yn aml ar arfordiroedd ac aberoedd Cymru. Mae'n bwydo ar bryfed, cramenogion, molysgiaid ac infertebratau eraill gan fwyaf.[2]

Mae'n 22–24 cm o hyd ac mae'n pwyso 85–150 g.[2] Yn ystod y tymor nythu, mae'n ddu ac orenfrown ar y cefn ac yn ddu a gwyn ar y pen a'r fron. Mae'n dywyllach ac yn llai lliwgar yn ystod y gaeaf.

Oedolyn mewn plu gaeaf yn Helgoland, yr Almaen

Cyfeiriadau

golygu
  1. David Rosair a David Cottridge, Hamlyn Photographic Guide to the Waders of the World (Llundain: Hamlyn, 1995)
  2. 2.0 2.1 D. W. Snow a C. M. Perrins, The Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 1 (Rhydychen: Oxford University Press, 1998)

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.