Sylwedd ystwyth ac anhydraidd a chanddo gyfernod ffrithiant isel yw cwyr. Mae dau brif fath: cwyrau mwynol, sydd yn hydrocarbonau o bwysau molecylaidd uchel a chanddynt strwythur ficrogrisialaidd; a chwyrau planhigion ac anifeiliaid sydd yn esterau o asidau brasterog sydd yn cyflawni ffwythiant amddiffynnol. Mae hefyd cwyrau organig synthetig sydd yn gyffredinol yn rhannu'r un gyfansoddiad cemegol â chwyrau naturiol.[1]

Cannwyll a wneir o gwyr.

Mae cwyrau yn debyg i frasterau, er enghraifft mae'r ddau fath o sylwedd yn hydawdd yn yr un sylweddau ac yn gadael marciau saim ar bapur. Mae cwyrau yn tueddu i fod yn llai seimllyd, yn galetach, ac yn freuach na brasterau.[2]

Geirdarddiad golygu

Daw bôn y gair Cymraeg "cwyr" o'r gair Lladin cēra.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 1630.
  2. (Saesneg) wax. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.
  3.  cwyr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: