Llyfr sy'n cynnwys cyfarwyddiadau er mwyn adnabod a pharatoi meddyginiaethau yw cyffuriadur neu gyffurlyfr. Yn aml bydd yn gyfeirlyfr o ddisgrifiadau, ryseitiau, cryfderau, safonau puredd, a dosau am gyffuriau meddyginiaethol.[1]

Clawr argraffiad cyntaf y Cyffuriadur Tsieineaidd (1930)

Y British Pharmacopoeia yw'r cyffuriadur swyddogol gan feddygon a fferyllwyr y Deyrnas Unedig. Cyhoeddwyd yn gyntaf ym 1864 gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1439. ISBN 978-0323052900
  2. Mosby's Medical Dictionary (2009), t. 257.
  Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.