Cyflafan Wounded Knee

Cyflafan Wounded Knee oedd y digwyddiad mawr olaf yn y gwrthdaro rhwng lluoedd arfog yr Unol Daleithiau (UDA) a brodorion Gogledd America. Digwyddodd ar 29 Rhagfyr 1890 mewn llecyn anghysbell o'r enw Wounded Knee ym mryniau De Dakota.

Cyflafan Wounded Knee
Maes y gad
Enghraifft o'r canlynolcyflafan Edit this on Wikidata
Dyddiad29 Rhagfyr 1890 Edit this on Wikidata
Lladdwyd300 Edit this on Wikidata
Rhan oGhost Dance War Edit this on Wikidata
LleoliadWounded Knee Creek, Wounded Knee National Historic Landmark Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthDe Dakota Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bryn Wounded Knee
Y pennaeth Big Foot wedi'i ladd yn Wounded Knee yn Ne Dakota (llun a dynwyd gan y Farchoglu Americanaidd ar ôl y gyflafan)

Y gyflafan

golygu

Mewn ymateb i'r sefyllfa truenus yn y reservations roedd rhai aelodau o'r Sioux wedi dianc i'r bryniau. Eisoes roedd y pennaeth enwog Tatanka Lyotake (1831-1890) neu 'Sitting Bull' yn Saesneg, a oedd erbyn hynny'n henwr, wedi ei saethu'n farw gan filwyr ac roedd y Sioux yn ofnus iawn. Eu harweinydd oedd y pennaeth Si Tȟaŋka sef 'Big Foot', oedd erbyn hynny'n sâl ac yn heneiddio. Roedd ei grŵp o ddilynwyr cymysg yn cynnwys gwragedd a phlant. Erbyn i'r Seithfed Farchoglu, dan reolaeth y capten Nelson Appleton Miles, eu tracio i lawr roeddynt bron â llwgu ac mewn cyflwr truenus. Cytunwyd iddynt fynd i Wounded Knee, ymgasglu yno ac ildio eu harfau.

Roedd y tywydd yn aeafol a'r eira'n disgyn. Amgylchynwyd y pentref tipi gan y milwyr Yanci. Wrth i'r rhyfelwyr Sioux ddechrau ildio eu harfau dechreuodd y milwyr saethu. Roedd yr hyn a ddilynodd yn gyflafan ddidrugaredd. Saethwyd dros 300 o frodorion yn farw, nifer sylweddol ohonynt yn bobl mewn oed, gwragedd a phlant. Un o'r cyntaf i gael ei ladd oedd y pennaeth Big Foot, oedd yn gorwedd ar gludydd oherwydd ei salwch.

Ceir disgrifiad llygad-dyst gan Black Elk yn ei gyfrol Black Elk Speaks.

Protest 1973

golygu

Yn 1973 meddianwyd pentref Wounded Knee gan tua 200 aelod o'r Fudiad Brodorion America (American Indian Movement) mewn protest yn erbyn polisïau Indiaidd llywodraeth UDA. Anfonwyd heddlu a milisia i'w gwarchae. Parhaodd y gwarchae am 69 diwrnod a lladdwyd dau o'r protestwyr cyn iddynt orfod ildio i'r awdurdodau.

Hyd heddiw Wounded Knee yw un o symbolau pennaf yr ymgyrch dros hawliau i'r brodorion yn America.

Llyfryddiaeth

golygu