Cyflunedd
Gelwir dau wrthrych geometrig yn gyflun os oes gan y ddau yr un siâp, neu fod y naill yn adlewyrchiad o'r llall, megis mewn drych. Yn fwy manwl, gellir ffurfio'r naill o'r llall drwy godi neu ostwng y raddfa, mewn modd unffurf; weithiau hefyd bydd yn rhaid troi'r siâp gwreiddiol, ei drawsfudo (translate) neu ei drawsffurfio eilwaith er mwyn cyrraedd yr ail siâp.
Math | affine transformation, dilation, geometric property, similarity |
---|---|
Y gwrthwyneb | difference |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pan fo dau siâp neu wrthrych yn gyflun, dywedir eu bod yn gyfath os oes ganddynt yr un siâp neu os oes gan y naill yr un siâp a maint â drychddelwedd y llall.
- Gwrthrychau cyflun
- Gwrthrychau nad ydynt yn gyflun
Yn y gofod Euclidaidd
golyguMae cyflunedd (neu "drawsffurfiad cyflun") y gofod Euclidaidd yn bijection[1] f o'r gofod iddo ef ei hun, sy'n lluosi pob pellter gan yr un rhif real positif r. Am bob dau bwynt, x a y, ceir
lle mae "d(x,y)" yn bellter Euclidaidd o x i y.[2]
Mae gan y sgalar r lawer o enwau, gan gynnwys "cymhareb cyflun", "y ffactor ymestyn" a'r "cyfernod cyflun".
Lle mae r = 1 gelwir y cyflunedd yn isometreg. Gelwir dwy set yn gyflun os yw'r naill yn ddelwedd o'r llall.
Fel map f : ℝn → ℝn, mae cyflunedd y gymhareb r yn cymryd y ffurf:
lle mae A ∈ On(ℝ) yn fatrics orthogonol n × n a t ∈ ℝn yw'r fector trawsfudol (translation vector).
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dim term Cymraeg mewn unrhyw eiriadur ar 5 ionawr 2019.
- ↑ Smart 1998, p. 92