Trerhondda

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref a chymuned yng Nghwm Rhondda ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Trerhondda, hefyd Glynrhedynog (ac yn llai cywir ei orgraff, Glyn Rhedynog). (Saesneg: Ferndale. "Trerhondda" oedd yr enw gwreiddiol, ar ôl enw capel yr Annibynwyr a godwyd yno yn 1867. "Glynrhedynog" yw enw hen fferm a fu lle y mae'r pentre heddiw. Trosiad llac o'r enw Cymraeg yw'r Saesneg "Ferndale".). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,419.

Trerhondda
Ferndale, Rhondda Valley - geograph.org.uk - 52041.jpg
Mathpentref, tref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6577°N 3.4459°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000683 Edit this on Wikidata
Cod OSST000964 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth Buffy Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)

Saif Trerhondda rhwng Maerdy a Phendyrus. Dechreuodd y diwydiant glo yna yn 1857, a Threrhondda oedd y pentref diwydiannol cyntaf yng Nghwm Rhondda. Bu dwy drychineb fawr yn y lofa yma yn y 19g, y gyntaf ar 8 Tachwedd 1867, pan laddwyd when 178 o lowyr. Ar 10 Mehefin 1869, bu ffrwydrad arall yma, a lladdwyd 53.

Y mae yno Ysgol Gymraeg Llyn y Forwyn.

EnwogionGolygu

LlyfryddiaethGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.