Gŵr Pen y Bryn (teitl llawn: Gŵr Pen y Bryn: Deffroad Enaid Cyffredin. Stori o gyfnod y Rhyfel Degwm) yw unig nofel y llenor amryddawn Edward Tegla Davies. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn Wrecsam, 1923.[1]

Gŵr Pen y Bryn
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Wyneb-ddalen a wyneb-ddarlun o argraffiad cyntaf Gŵr Pen y Bryn (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923)

Lleolir y nofel mewn pentref bach gwledig yng ngogledd-ddwyrain Cymru adeg Rhyfel y Degwm. Er bod iddi gefndir hanesyddol a chymdeithasol pwysig, stori am "ddeffroad enaid cyffredin", sef gŵr (meistr) fferm Pen-y-Bryn ydyw.

Ystyrir Gŵr Pen-y-Bryn yn glasur bach gan sawl beirniad; "un o nofelau mwyaf trawiadol ei gyfnod" yw barn Bobi Jones amdano.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1923)
    • Argraffiad newydd gyda rhagymadrodd gan John Rowlands: Gŵr Pen y Bryn (Caerdydd: Hughes a'i Fab, 1994)

Cyfeiriadau golygu

  1. Misell, Andrew (Chwefror 2023). "Rhyfel y Degwm - 'rhyfel diwylliannol' y Cymry". Barn: 29.
  2. R. M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936, t. 430


Edward Tegla Davies  
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.