Nofel fer gan Edward Tegla Davies ("Tegla") yw Gyda'r Glannau, gyhoeddwyd yn y gyfres clawr meddal boblogaidd gan Llyfrau'r Dryw, Llandybïe, yn 1941.

Gyda'r Glannau
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata


Clawr Gyda'r Glannau (Llyfrau'r Dryw, Llandybïe, 1941)

Hunangofiant ffug gweinidog Wesleiaidd yw'r nofel. Ei deitl llawn, yn null y cofiannau Cymraeg traddodiadol, yw

GYDA'R GLANNAU / sef Atgofion / y Parchedig / WILLIAM CICERO-WILLIAMS / gyda nodiadau / gan / E. TEGLA DAVIES.

Fel yr awgryma ei enw, mae William Cicero-Williams yn hoff o draethu ar bob pwnc dan haul. Rhyw hunangofiant ffug am Tegla ei hun ydyw mewn gwirionedd, yn seiliedig ar ei brofiadau fel gweinidog Wesleiaidd yn symud o gylchdaith i gylchdaith o gwmpas trefi bach yng nghefn-gwlad Cymru.


Edward Tegla Davies Tegla
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon