Cyfrifiadur prif ffrâm

Mae cyfrifiaduron prif ffrâm (y cyfeirir atynt ar lafar fel "big iron") yn gyfrifiaduron a ddefnyddir yn bennaf gan sefydliadau a chwmniau mawr ar gyfer gwaith prosesu data a gwybodaeth hanfodol. Gallant drin a thrafod data mawr yn gynt na chyfrifiadur personol neu hyd yn oed weinyddwyr, oherwydd eu pŵer prosesu, sef y UBGs.[1] Anaml y gwelir un ar ei ben ei hun; fel arfer ceir rhesi ohonynt yn cydweithio gyda'i gilydd.

Dau gyfrifiadur prif ffrâm IBM. Ch: IBM z Systems z13. Dde: IBM LinuxONE Rockhopper.
Y tu fewn i'r IBM System z9

Cyfeiriodd y term yn wreiddiol at y cypyrddau mawr "prif fframiau" lle cedwid yr uned brosesu ganolog a'r prif gof.[2][3]

Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y term i wahaniaethu rhwng peiriannau masnachol, cryf, ag unedau llai pwerus.[4] Sefydlwyd y rhan fwyaf systemau fframiau mawr yn y 1960au, ond maent yn parhau i esblygu hyd heddiw (2019). Defnyddir cyfrifiaduron prif ffrâm yn aml fel gweinydd.

Datblygiadau golygu

Er mai prif nodwedd y Cyfrifiadur prif ffrâm yw cyflymder, ceir ystyriaethau eraill a ystyrir gan lawer i fod yr un mor bwysig:

  1. dibynadwyedd a diogelwch
  2. ôl-gydnaws: a yw hen feddalwedd yn dal i weithio?
  3. nodweddion mewnbynnu/allbynnu ("I/O")
  4. y gallu i gyfnewid caledwedd megis y prosesydd a chof, yn sydyn.

Mae cyfrifiaduron prif ffrâm wedi eu llunio i redeg am gyfnodau hir (degawdau), yn ddi-dor, a hynny mewn modd dibynadwy a diogel. Gelwir y nodwedd hon yn aml yn RAS: reliability, availability a serviceability. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST) yn clustnodi cyfrifiaduron sy'n pasio'r meincnodau hyn, ac yn eu plith enwir yr IBM Z (a elwid gynt yn z Systems, System z a zSeries), Unisys Dorado ac Unisys Libra fel y rhai mwyaf diogel. Mae eu diffygion yn y digidau sengl isel, o'u cymharu â miloedd ar gyfer Windows, UNIX, a Linux.

Mae uwchraddio meddalwedd fel arfer yn gofyn am sefydlu'r system weithredu neu ddarnau ohoni, drwy rannu'r gwaaith rhwng y systemau eraill.

Hanes golygu

Yn y 1950au, rhyngwyneb syml iawn oedd gan y cyfrifiadur prif ffrâm (y consol), a defnyddid cardiau tyllog neu dap papur neu fagnetig i lwytho data a rhaglenni. Eu gwaith yr adeg honno oedd cefnogi gwaith clerigol fel cyflogau, anfonebau, a thaliadau drwy wahanu, dosbarthu a chyfuno data - gwaith ailadroddus a llafurus, fel arfer, ar lawr y swyddfa. Yna daeth argraffu-llinell, parhaus. Pan ddaeth terfynellau ("tethi" oedd y gair Cymraeg gwreiddiol), yna galluogwyd y cwsmer i gysylltu'n uniongyrchol gyda'r cyfrifiadur prif ffrâm - yn bennaf i fwcio teithiau awyr ayb. drwy'r 1970au, cysylltwyd y teipiadur gyda'r cyfrifiadur, fel consol, hyd nes y dyfeisiwyd yr allweddell.

Nodweddion golygu

Gall y cyfrifiadur prif ffrâm redeg sawl system weithredu ar yr un pryd. Gelwir y dechneg hon yn "beiriannau rhithwir", a chant eu rhedeg fel pe taent yn gyfrifiaduron annibynnol, real.[5]

Nodwedd arall yw ffeirio tinboeth (hot swapping) heb amharu ar y system reoli.

Cyfeiriadau golygu

  1. "IBM preps big iron fiesta". The Register. 20 Gorffennaf 2005.
  2. "mainframe, n". Oxford English Dictionary (arg. on-line).
  3. Ebbers, Mike; O’Brien, W.; Ogden, B. (2006). "Introduction to the New Mainframe: z/OS Basics" (PDF). IBM International Technical Support Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-07-02. Cyrchwyd 2007-06-01.
  4. Beach, Thomas E. "Computer Concepts and Terminology: Types of Computers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd November 17, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Emulation or Virtualization?".