Y cyfryngau torfol sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg, nid yn unig y cyfryngau yng Nghymru ond hefyd o gwmpas y byd, yw'r cyfryngau Cymraeg.
Cymraeg
|
|
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
|
y Gymraeg
|
|
Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agwedd ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.[1] Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus. Mae'r wasg Gymraeg a darlledu yn Gymraeg ar y radio wedi hen sefydlu yng Nghymru, a phresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd wedi tyfu yn y 2000au. Mae teledu Cymraeg yn cael ei ddominyddu gan S4C, yr unig sianel Gymraeg.
Yn ôl ymchwil diweddar[2], postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar y 15fed Awst, 1989[3]. Ar y 13eg o Dachwedd, 1992 agorwyd y rhestr ebost WELSH-L, sef y Welsh Language Bulletin Board[4]. Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer o faesydd ar rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.
Y Wicipedia Cymraeg ydy'r wefan Gymraeg fwyaf ar y we.
Dolen allanolGolygu