Papurau newydd Cymraeg

Cafwyd cylchgronau Cymraeg mor gynnar â chanol y 18g ond bu rhaid aros tan y 19g i weld y papurau newydd Cymraeg go iawn cyntaf.

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg

golygu

Roedd gan Thomas Gee ran allweddol yn natblygiad y wasg Gymraeg yn y 19g. Ei gyfraniad unigol pwysicaf efallai oedd cyhoeddi Baner Cymru yn 1857 (Baner ac Amserau Cymru ar ôl hynny, newyddiadur mwyaf dylanwadol ei ddydd.

Yr ugeinfed ganrif

golygu

Torrai sawl llenor Cymraeg ei yrfa ym myd newyddiaduraeth Cymru, gan gynnwys T. Gwynn Jones, Dic Tryfan ac E. Morgan Humphreys ill dau ar staff Y Genedl yng Nghaernarfon, a Saunders Lewis.

Y sefyllfa heddiw

golygu

Y Byd oedd i fod y papur newydd dyddiol Cymraeg cyntaf, ond fe fethodd i gael digon o arian i gyhoeddi. Caiff Y Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Mae papurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduro Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf.

Ar-lein ceir gwefan Golwg360 sy'n cynnwys adrannau newyddion o Gymru, gwledydd Prydain a'r byd yn ogystal â newyddion chwaraeon a.y.b.

Llyfryddiaeth

golygu
  • E. Morgan Humphreys, Y Wasg Gymraeg (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1944). Arolwg byr ond defnyddiol, Cyfres Pobun.
  • T.M. Jones, Llenyddiaeth Fy Ngwlad: Hanes y Newyddiadur a'r Cylchgrawn Cymreig yng Nghymru, America ac Awstralia (Treffynnon, 1893). Er ei bod wedi dyddio erys y gyfrol yn ffynhonnell werthfawr ar hanes cynnar y wasg Gymreig yn ddwy iaith.
  • Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1735-1850/Bibliography of Welsh Periodicals 1735-1850 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1984)
  • Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1851-1900/Bibliography of Welsh Periodicals 1851-1900 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2004)
  • Cyhoeddi papurau newydd yng Nghymru o wefan Newsplan Cymru (adalwyd 3 Hydref, 2007)

Gweler hefyd

golygu

Dolen allanol

golygu