Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Darlledu yn y Gymraeg ar radio'r BBC golygu

Cyndyn iawn oedd y BBC i ddarlledu yn Gymraeg a Gaeleg yn nyddiau cynnar radio.[1] Cynhyrchai gorsaf darlledu Caerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y 1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân gan Mostyn Thomas, ac ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar gan y Parchedig Gwilym Davies ac yna gan Huw J. Huws.[2] Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o 1927 ymlaen o Ddulyn.[1] Roedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdio Bangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o 1935 ymlaen. Darllediad gan David Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor.[2]

Roedd Pwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru yn rhan bwysig o'r ymgyrchu ac erbyn 1937 llwyddwyd i sefydlu Rhanbarth Cymreig y BBC yn lle rhanbarth y Gorllewin ('Teyrnas y Brenin Arthur') a gynhwysai de-orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru.[1] Roedd cwynion gwrandawyr de-orllewin Lloegr am yr ychydig oriau o ddarlledu Cymraeg hefyd yn rhan o'r pwysau ar y BBC i sefydlu'r Rhanbarth Cymreig. Ond pan ddechreuodd yr ail ryfel byd diddymwyd gwasanaeth Rhanbarth Cymru'r BBC. Bu raid i Undeb Cymru Fydd ymgyrchu dros adfer y darllediadau Cymraeg. Llwyddwyd i gael tair awr a hanner yr wythnos erbyn 1940. 1940 oedd y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y radio.

Cred rhai bod creu y 'Rhanbarth Gymreig' (Welsh Region, neu, Welsh Reg." fel oedd hi ar y deial) yn holl bwysig ar gyfer cynnal a meithrin hunaniaeth Cymru yn yr 20g. Yn ôl David Evan Jones, deilydd amgueddfa fechan Gwefr Heb Gwifrau a agorwyd yn Ninbych sy'n cynnwys y set radio gynharaf gyda'r gair Welsh Reg. arni (o 1936); "Mae un o'r setia yma yn dangos y rhanbarth Gymreig ar y deial - jest dros hannar ffordd i fyny mae o'n dweud - Welsh Reg a ddaeth wedyn yn BBC Cymru." Credai David "bod hynny wedi bod yn bwysig iawn yn sicrhau a chryfhau ein hunaniaeth ni fel cenedl a nid dim ond yn rhan o Orllewin Prydain fel fyddai'r hen setiau radio yn awgrymu."[3]

Adferwyd gwasanaeth radio Rhanbarth Cymru yn 1945 ond bu'n rhaid disgwyl hyd 1977 cyn y cafwyd y gwasanaeth Cymraeg cyflawn cyntaf, sef Radio Cymru ar y BBC. Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd cyntaf Radio Cymru. Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni ar y dechrau, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5 o'r gloch y bore ac yn terfynu am 1 o'r gloch y bore wedyn. Mae'n bosib clywed y rhaglenni hyn ar y we, hefyd. Darlledir rhaglen frecwast arbennig (yng nghwmni Ray Gravell cyn ei farwolaeth yn 2007) bob bore Llun i Gwener ar gyfer de-orllewin Cymru yn fyw o stiwdio'r BBC yng nghanol Abertawe.

Darlledu yn y Gymraeg ar radio masnachol golygu

Darlledir yn rhannol yn Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol hefyd. Mae Champion 103 yng Nghaernarfon yn darlledu i Ynys Môn a Gwynedd ar 103 FM gyda rhaglenni Cymraeg adeg brecwast a'r prynhawn. Dan gytundeb ag Ofcom i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn hafal am o leiaf 12 awr bob dydd.

Mae 'chwaer orsaf' Champion 103, Coast 96.3, yn darlledu i lannau'r gogledd gyda rhaglenni Cymraeg gyda'r nos. Dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf awr o raglen Gymraeg bob dydd rhwng dydd Sul a dydd Gwener.

Mae Classic Gold Marcher yng ngogledd-ddwyrain Cymru a rhannau o Sir Gaer yn rhannu rhaglenni Cymraeg Champion 103 a Coast 96.3. Dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf awr o raglen Gymraeg bob dydd rhwng dydd Sul a dydd Gwener.

Mae Radio Ceredigion yn darlledu ers 1992 o Aberystwyth ar 96.6, 97.4 a 103.3 FM. Dan gytundeb ag Ofcom mae'n fod i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, ond ers iddo gael ei gymryd drosodd gan y cwmni darlledu Seisnig Town and Country Broadcasting mae wedi cael ei feirniadu gan Gyfeillion Radio Ceredigion am ddarlledu "bron yn gyfan gwbl yn Saesneg". Mae Ofcom yn arolygu'r sefyllfa.[4]

Mae 1170 Sain Abertawe wedi darlledu rhaglenni Cymraeg fel arfer yn y nosweithiau ers 1974 gydag ychydig o Gymraeg i'w chlywed adeg brecwast. Yr orsaf hon sy'n gyfrifol am ddechrau gyrfaoedd nifer o ddarlledwyr y BBC, megis Siân Thomas, Garry Owen a Huw Edwards. Dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf 12 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos.

Roedd 'chwaer orsaf' Sain Abertawe, Valleys Radio, a oedd yn darlledu ar draws cymoedd y de o'i stiwdio yng Nglyn Ebwy, yn cynnig tair awr o raglenni Cymraeg bob nos Sul rhwng 7yh a 10yh. (Angharad Rhiannon Davies oedd yn cyflwyno.) Roedd dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf 2 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos ac hyrwyddo defnydd yr iaith. Daeth i ben Ddydd Iau, 30 Ebrill, 2009, am 10yb.

Mae Radio Sir Gâr dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu rhaglenni Cymraeg gyda'r hwyr ers ei sefydliad, ond cafwyd dadleuon a phrotestio ynglŷn â'u tuedd i hepgor y cytundeb hwn.

Mae Radio Acen, sydd â'i stiwdio yng Nghaerdydd, yn darlledu rhaglenni Cymraeg yn arbennig ar gyfer dysgwyr drwy'r dydd ar y we.

Credir bod GCap Media, sy'n berchen ar Champion, Coast a Red Dragon yng Nghaerdydd yn ystyried cychwyn gorsaf Gymraeg ar DAB yn y Brifddinas.

Mae Radio Sir Benfro dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf 1 rhaglen Gymraeg bob wythnos.

Mae Bridge FM ym Mhen-y-bont ar Ogwr dan gytundeb ag Ofcom i hyrwyddo'r Gymraeg.

Dan gytundeb ag Ofcom, dylai 96.4FM The Wave yn Abertawe ddefnyddio'r Gymraeg ar adegau priodol, ond nid oes sôn am hyn ar yr orsaf.

Nodiadau golygu

Cyswllt allanol golygu

Ffynonellau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 John Davies, Hanes Cymru, tt 542, 566 (The Penguin Press, 1990)
  2. 2.0 2.1 Gwyn Jenkins, Andy Misell, a Tegwyn Jones, Llyfr y Ganrif, tud. 101 (y Lolfa, 1999)
  3. "Y radio, Cymru a Chymreictod". BBC Cymru Fyw. 27 Mai 2022.
  4. "Dim digon o Gymraeg ar Radio Ceredigion", Newyddion BBC Cymru, 22.10.2010.