Cyfundrefn ryngwladol
Enw ar drefn o egwyddorion, rheolau, normau, a dulliau o weithredu sydd yn gyffredin i wladwriaethau a gweithredyddion eraill mewn cysylltiadau rhyngwladol yw cyfundrefn ryngwladol. Mae cyfundrefnau o'r fath yn galluogi gweithredyddion i gydweithio ac i gadw'r drefn rhyngddynt, er gwaethaf anllywodraeth y system ryngwladol.[1]
Esiamplau
golygu- Y gyfundrefn i atal amlhau niwclear: Cytundeb i Atal Amlhau Arfau Niwclear, Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol
- Y gyfundrefn newid hinsawdd: Cytundeb Kyoto, Cytundeb Paris (2016)
- Y gyfundrefn hawliau dynol: Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Diez, Ingvild Bode ac Aleksandra Fernandes da Costa, Key Concepts in International Relations (Llundain: SAGE, 2011), tt. 114–5.