Cytundeb Paris (2016)

Mae Cytundeb Paris (Ffrangeg: l'accord de Paris) yn gytundeb o fewn Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC), ar liniaru, addasu a chyllido ar gyfer newid hinsawdd, a lofnodwyd yn 2016. Ei ragflaenydd yw Protocol Kyoto (1992). Trafodwyd y cytundeb gan gynrychiolwyr 196 o bartïon (gwladwriaethau) yn 21ain Cynhadledd Partïon yr UNFCCC yn Le Bourget, ger Paris, Ffrainc, a’i mabwysiadu trwy gonsensws ar 12 Rhagfyr 2015.

Cytundeb Paris
     Partïon-wladwriaethau     Llofnodwyr      Partïon hefyd a gwmpesir gan gadarnhad yr Undeb Ewropeaidd      Nid yw'r cytundeb yn berthnasol
Enghraifft o'r canlynolcytundeb, cytundeb ar yr amgylchedd Edit this on Wikidata
Dyddiad12 Rhagfyr 2015 Edit this on Wikidata
AwdurY Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Rhan oConfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Arabeg, Sbaeneg, Tsieineeg, Rwseg, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi12 Rhagfyr 2015 Edit this on Wikidata
LleoliadParis, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym Mawrth 2021, roedd 191 aelod o'r UNFCCC yn bartïon i'r cytundeb. Tynnodd yr Unol Daleithiau yn ôl o'r cytundeb yn 2020, ond ailymunodd yn 2021. O'r chwe aelod-wladwriaeth UNFCCC nad ydyn nhw wedi cadarnhau'r cytundeb, yr unig allyrwyr mawr yw Iran, Irac a Thwrci, er bod Arlywydd Irac wedi cymeradwyo.

Nod hirdymor Cytundeb Paris yw cadw'r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang o dan 2 °C (3.6 °F) hynny yw, uwchlaw'r lefelau cyn-ddiwydiannol; ac i fynd ar drywydd ymdrechion i gyfyngu'r cynnydd i 1.5 °C (2.7 °F), gan gydnabod y byddai hyn yn lleihau risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn sylweddol. Dylid gwneud hyn trwy leihau allyriadau cyn gynted â phosibl, er mwyn "sicrhau cydbwysedd rhwng allyriadau anthropogenig gan ffynonellau a symudiadau gan sinciau yn ail hanner y 21g. Mae hefyd yn anelu at gynorthwyo partïon i addasu i effeithiau andwyol newid hinsawdd, a gwneud "cyllid sy'n sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr isel a datblygiad sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd."

O dan Gytundeb Paris, rhaid i bob gwlad bennu, cynllunio ac adrodd yn rheolaidd ar y cyfraniad y mae'n ei wneud i liniaru cynhesu byd-eang. Nid oes unrhyw fecanwaith yn gorfodi gwlad i osod targedau allyriadau penodol erbyn dyddiad penodol, ond dylai pob targed fynd y tu hwnt i dargedau a osodwyd yn flaenorol. Mewn cyferbyniad â Phrotocol Kyoto 1997, mae'r gwahaniaeth rhwng gwledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu yn aneglur, fel bod yn rhaid i'r olaf hefyd gyflwyno cynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau.

Cynnwys

golygu

Nod y cytundeb, fel y disgrifir yn ei Erthygl 2, yw cael ymateb cryfach i berygl newid hinsawdd; mae'n ceisio gwella gweithrediad Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) trwy:[1] (a) Dal y cynnydd yn y tymheredd cyfartalog byd-eang i ymhell islaw 2 °C uwchlaw'r lefelau cyn-ddiwydiannol ac i fynd ar drywydd ymdrechion i gyfyngu'r cynnydd tymheredd i 1.5 °C uwchlaw'r lefelau cyn-ddiwydiannol, gan gydnabod y byddai hyn yn lleihau'r risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn sylweddol; (b) Cynyddu'r gallu i addasu i effeithiau andwyol newid hinsawdd a meithrin gwytnwch yn yr hinsawdd a datblygu allyriadau nwyon tŷ gwydr isel, mewn modd nad yw'n bygwth cynhyrchu bwyd;

(c) Caniatáu i gyllid lifo'n gyson, gan gyd-fynd â'r llwybr tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr isel a datblygiad sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.

Mae gwledydd ymhellach yn anelu at gyrraedd "uchafbwynt byd-eang allyriadau nwyon tŷ gwydr cyn gynted â phosibl." [2]

 
Cyfanswm allyriadau carbon deuocsid blynyddol o 2000 tan 2019. Mae allyriadau Tsieina a gweddill y byd bellach yn fwy nag allyriadau'r Unol Daleithiau ac Ewrop.[3]
 
Allyriadau carbon deuocsid y pen o 2000 tan 2019. Mae'r Unol Daleithiau yn dal i gynhyrchu allyriadau ar gyfradd llawer yn fwy (y pen) na gweddill y byd.[3]

Mae pob gwlad yn pennu'r cyfraniadau y dylai ei gwneud i gyflawni'r nod byd-eang, ac fe'u gelwir yn "gyfraniadau a bennir yn genedlaethol" (NDCs).[4] Mae Erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn "uchelgeisiol," "cynrychioli dilyniant dros amser" a'u gosod "gyda'r nod o gyflawni pwrpas y Cytundeb hwn." Dylai'r cyfraniadau gael eu gosod bob pum mlynedd ac maent i'w cofrestru gan Ysgrifenyddiaeth UNFCCC .[5] Dylai pob uchelgais bellach fod yn fwy uchelgeisiol na'r un blaenorol, a elwir yn egwyddor 'dilyniant'.[6] Gall gwledydd gydweithredu a chyfuno eu cyfraniadau a bennir yn genedlaethol. Mae'r Cyfraniadau a Fwriadwyd yn Genedlaethol a Benderfynir yn Genedlaethol a addawyd yn ystod Cynhadledd Newid Hinsawdd 2015 yn gwasanaethu - oni ddarperir yn wahanol - fel y cyfraniad cychwynnol a bennir yn Genedlaethol.

Mae diffyg cysondeb o ran adrodd a chasglu data'r NDCs. Gall hyn wneud casglu data a dadansoddi polisïau yn anoddach. Mewn gwirionedd, mae tri phrif fath o dargedau hinsawdd i'w nodi. Yn gyntaf, mae nodau polisi gyda buddion lliniaru, megis cynyddu effeithlonrwydd 25%. Yn ail, mae gwella'r gallu i addasu i ganlyniadau (er nad o reidrwydd leihau allyriadau neu gyfrannu at arafu newid hinsawdd), fel adeiladu waliau llifogydd. Mae'r ail ddull hwn yn fwy o ddull glanhau yn hytrach nag un i atal newid hinsawdd. Yr olaf, yn syml, yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Er nad yw'r NDCs eu hunain yn rhwymol, mae'r gweithdrefnau o'u cwmpas yn rhwymol (sef gosod CDC mwy uchelgeisiol bob pum mlynedd).[7] Nid oes mecanwaith i orfodi[8] gwlad i osod targedi yn eu CDC erbyn dyddiad penodol a dim gorfodaeth os na chyrhaeddir targed penodol mewn CDC.[9][10] Dim ond system a elwir yn "enwi mewn cywilydd" a ddefnyddir,[11] neu fel y nododd János Pásztor, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, gynllun "enwi ac annog".[12] Gelwir y dull o adrodd-nol yn "Fframwaith Tryloywder Gwell (ETF)" ac mae partïon y cytundeb yn anfon eu Hadroddiad Tryloywder Dyflwydd (BTR) cyntaf, a ffigurau stocrestr nwyon tŷ gwydr mewn fformat safonol, i'r UNFCCC erbyn 2024 a phob dwy flynedd ar ôl hynny (mae gwledydd datblygedig yn cyflwyno eu BTR cyntaf yn 2022 a'u stocrestrau yn flynyddol wedi hynny).[13]

Cymryd stoc yn fyd-eang

golygu

O dan Gytundeb Paris, rhaid i wledydd gynyddu eu huchelgais bob pum mlynedd. Er mwyn hwyluso hyn, sefydlodd y Cytundeb y <i>Global Stocktake</i>, sy'n asesu cynnydd, gyda'r gwerthusiad cyntaf yn 2023. Mae'r canlyniadau i'w ddefnyddio fel mewnbwn ar gyfer cyfraniadau partïon newydd a bennir yn genedlaethol.[14] Gwelwyd Deialog Talanoa yn 2018 fel enghraifft ar gyfer cymryd stoc fyd-eang. Ar ôl blwyddyn o drafod, cyhoeddwyd adroddiad a bu galwad am weithredu, ond ni chynyddodd y gwledydd eu huchelgais wedi hynny.[15]

Strwythur

golygu

Mae gan Gytundeb Paris strwythur 'o'r gwaelod i fyny' mewn cyferbyniad â'r mwyafrif o gytuniadau cyfraith amgylcheddol rhyngwladol, sydd 'o'r brig i lawr', a nodweddir gan safonau a thargedau a osodir yn rhyngwladol, i wladwriaethau eu gweithred[16]. Yn wahanol i'w ragflaenydd, sef Protocol Kyoto (Mehefin 1992), sy'n gosod targedau ymrwymiad sydd â grym cyfreithiol, mae Cytundeb Paris, gyda'i bwyslais ar adeiladu consensws, yn caniatáu targedau gwirfoddol a bennir yn genedlaethol.[17] Felly, mae'r nodau hinsawdd penodol yn cael eu hannog yn wleidyddol, yn hytrach na'u rhwymo'n gyfreithiol. Dim ond y prosesau sy'n ymwneud a'r adrodd-nol ac adolygu'r nodau hyn sy'n orfodol o dan gyfraith ryngwladol. Mae'r strwythur hwn yn arbennig o nodedig i'r UDA - oherwydd nad oes targedau lliniaru cyfreithiol na chyllid, ystyrir bod y cytundeb yn "gytundeb gweithredol yn hytrach na chytundeb ar bapur yn unig". Oherwydd bod cytundeb UNFCCC 1992 wedi derbyn caniatâd Senedd yr UDA, nid yw'r cytundeb newydd hwn yn gofyn am ddeddfwriaeth bellach gan y Gyngres.

Gwahaniaeth allweddol arall rhwng Cytundeb Paris a Chytundeb Kyoto yw eu cwmpas (scope). Er bod Protocol Kyoto yn gwahaniaethu rhwng gwledydd Atodiad-1 a gwledydd nad ydynt yn Atodiad-1, mae'r rhaniad hwn yn aneglur yng Nghytundeb Paris, gan ei bod yn ofynnol i bob parti (gwlad) gyflwyno cynlluniau lleihau allyriadau.[18] Mae Cytundeb Paris yn dal i bwysleisio'r egwyddor o "Gyfrifoldeb Cyffredin ond Gwahaniaethol a Galluoedd Priodol" ("Common but Differentiated Responsibility and Respective Capabilities") - y gydnabyddiaeth bod gan y gwahanol genhedloedd alluoedd, ypotensial a dyletswyddau gwahanol i weithredu dros yr amgylchedd - ond nid yw'n darparu rhaniad penodol rhwng cenhedloedd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu.

Darpariaethau lliniaru a marchnadoedd carbon

golygu

Tynnwyd sylw at Erthygl 6 fel un sy'n cynnwys rhai o ddarpariaethau allweddol Cytundeb Paris.[19] Yn fras, mae'n amlinellu'r dulliau cydweithredol y gall partïon eu cymryd wrth gyflawni eu gostyngiadau mewn allyriadau carbon a bennir yn genedlaethol. Wrth wneud hynny, mae'n helpu i sefydlu Cytundeb Paris fel fframwaith ar gyfer marchnad garbon fyd-eang.[20] Erthygl 6 yw rhan olaf y Cytundeb y mae angen ei datrys; ni chyrhaeddwyd cytundeb yn nhrafodaethau 2019.[21] Bellach mae disgwyl i'r pwnc gael ei ddatrys yn ystod trafodaethau 2021 yn Glasgow.[22]

Cysylltu systemau masnachu carbon

golygu

Mae paragraffau 6.2 a 6.3 yn sefydlu fframwaith i reoli trosglwyddo canlyniadau lliniaru ('the international transfer of mitigation outcomes'; ITMOs) yn rhyngwladol. Mae'r Cytundeb yn cydnabod hawliau Partïon i ddefnyddio gostyngiadau mewn allyriadau y tu allan i'w hawdurdodaeth eu hunain tuag at eu CDC, mewn system o gyfrifo a masnachu carbon.[20] Mae'r ddarpariaeth hon yn gofyn am "gyswllt" amrywiol systemau masnachu allyriadau carbon - oherwydd mae'n rhaid i ostyngiadau mewn allyriadau mesuredig osgoi "cyfrif dwbl", rhaid cofnodi canlyniadau lliniaru a drosglwyddir fel enillion o unedau allyriadau ar gyfer un parti a gostyngiad mewn unedau allyriadau ar gyfer y llall.[23] Oherwydd bod yr NDCs, a'r cynlluniau masnachu carbon domestig, yn heterogenaidd, bydd yr ITMOs yn darparu fformat ar gyfer cyswllt byd-eang o dan adain yr UNFCCC.[24] Felly mae'r ddarpariaeth hefyd yn creu pwysau ar wledydd i fabwysiadu systemau rheoli allyriadau - os yw gwlad am ddefnyddio dulliau cydweithredol mwy cost-effeithiol i gyflawni eu NDCs, bydd angen iddynt fonitro unedau carbon ar gyfer eu heconomïau.[25]

Mecanwaith Datblygu Cynaliadwy

golygu

Mae paragraffau 6.4 -6.7 yn sefydlu mecanwaith "i gyfrannu at liniaru nwyon tŷ gwydr a chefnogi datblygu cynaliadwy".[26] Er nad oes enw swyddogol ar y mecanwaith hyd yma, cyfeiriwyd ato fel y Mecanwaith Datblygu Cynaliadwy neu'r SDM.[21][27] Ystyrir mai'r SDM yw olynydd y Mecanwaith Datblygu Glân, mecanwaith o dan Brotocol Kyoto lle gallai partïon fynd ati ar drywydd gostyngiadau allyriadau ar y cyd.[28]

Darpariaethau addasu

golygu

Pwysleisiwyd materion parthed addasu yn fwy nag unrhyw ddull arall, yng Nghytundeb Paris. Ceir nodau addasu ar y cyd, tymor hir yn y Cytundeb, a rhaid i wledydd adrodd ar eu gweithredoedd addasu, gan ei wneud yn rhan gyfochrog o'r cytundeb â lliniaru.[29] Mae'r nodau addasu yn canolbwyntio ar wella gallu i addasu, cynyddu gwytnwch, a chyfyngu ar fregusrwydd.[30]

Colled a difrod

golygu

Cododd mater newydd a ddaeth yn ganolog i drafodaethau Paris sef y bydd llawer o effeithiau gwaethaf newid hinsawdd yn rhy ddifrifol neu'n dod yn rhy gyflym i'w hosgoi trwy fesurau addasu.[31] Mae'r Cytundeb yn cydnabod yn benodol yr angen i fynd i’r afael â cholled a difrod o’r math hwn, a’i nod yw dod o hyd i ddatrusiad priodol.[32] Mae'n nodi y gall 'colled a difrod' fod ar sawl ffurf - fel effeithiau uniongyrchol digwyddiadau tywydd eithafol, ac effeithiau cychwyn yn rhy araf, megis colli tir i godiad yn lefel y môr ar gyfer ynysoedd o uchder isel.[33]

Daeth yr ymdrech i fynd i’r afael â cholled a difrod fel mater penodol yng Nghytundeb Paris gan Gynghrair Gwladwriaethau’r Ynysoedd Bach a’r Gwledydd Lleiaf Ddatblygedig, y mae eu heconomïau a’u bywoliaeth yn fwyaf agored i effeithiau negyddol newid hinsawdd.[34] Roedd gwledydd datblygedig, fodd bynnag, yn poeni y byddai dosbarthu'r mater fel mesurau addasu ar wahân yn creu problem arall, sef cyllid, neu gallai awgrymu atebolrwydd cyfreithiol am ddigwyddiadau hinsawdd trychinebus.

Yn y diwedd, roedd pob parti yn cydnabod yr angen i "osgoi, lleihau, a mynd i'r afael â cholled a difrod" ond yn benodol, mae unrhyw sôn am iawndal neu atebolrwydd wedi'i eithrio.[35] Mae'r cytundeb hefyd yn mabwysiadu Mecanwaith Rhyngwladol Warsaw ar gyfer Colled a Niwed, sefydliad a fydd yn ceisio mynd i'r afael â chwestiynau ynghylch sut i ddosbarthu, mynd i'r afael â, a rhannu cyfrifoldeb am golled.[32]

Fframwaith tryloywder gwell

golygu

Er nad yw'r cyfraniadau a bennir yn genedlaethol (CDC) pob Parti yn gyfreithiol rwymol, mae'r Partïon yn rhwym i gael adolygiad gan arbenigwyr o'u cynnydd.[36] Mae Erthygl 13 o Gytundeb Paris yn cyfleu "fframwaith tryloywder gwell ar gyfer gweithredu a chefnogi" sy'n sefydlu gofynion monitro, adrodd a gwirio wedi'u cysoni (MRV). Felly, mae'n rhaid i'r gwledydd datblygedig a'r gwledydd sy'n datblygu adrodd bob dwy flynedd ar eu hymdrechion lliniaru, a bydd pob parti yn destun adolygiad technegol ac adolygiad cymheiriaid.

Mabwysiadu

golygu
Trafodaethau Cytundeb Paris

Agorwyd Cytundeb Paris i'w lofnodi ar 22 Ebrill 2016 (Diwrnod y Ddaear) mewn seremoni yn Efrog Newydd.[37] Ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd gadarnhau’r cytundeb yn Hydref 2016, roedd digon o wledydd a oedd wedi cadarnhau’r cytundeb sy’n cynhyrchu digon o nwyon tŷ gwydr y byd i’r cytundeb ddod i rym.[38] Daeth y cytundeb i rym ar 4 Tachwedd 2016.[39]

Arweiniad a thrafodaethau

golygu

Roedd Protocol Kyoto, a fabwysiadwyd ym 1997, yn rheoleiddio gostyngiadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer grŵp gyfyngedig o wledydd rhwng 2008 a 2012. Ymestynnwyd y protocol tan 2020 gyda Gwelliant Doha yn 2012.[40] Penderfynodd yr Unol Daleithiau beidio â chadarnhau'r Protocol, yn bennaf oherwydd ei natur gyfreithiol-rwymol. Arweiniodd hyn at fethiannau yn y trafodaethau hinsawdd rhyngwladol dilynol. Bwriad rownd drafodaethau 2009 oedd cynhyrchu cytundeb olynol i Gytundeb Kyoto, ond nid oedd Cytundeb Copenhagen o ganlyniad yn rhwymol gyfreithiol ac ni chafodd ei fabwysiadu'n gyffredinol.[41]

Gosododd y Cytundeb (The Accordy) fframwaith ar gyfer dull gweithredu o'r gwaelod i fyny o'r hyn a fyddai'n dod yn Gytundeb Paris.[41] O dan arweinyddiaeth ysgrifennydd gweithredol UNFCCC, Christiana Figueres, fe wnaeth y trafodaethau adennill momentwm, ar ôl methiant Copenhagen.[42] Yn ystod Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2011, sefydlwyd Llwyfan Durban gyda'r nod o drafod offeryn cyfreithiol sy'n llywodraethu mesurau lliniaru newid hinsawdd o 2020. Roedd y cytundeb newydd hwn i'w fabwysiadu yn 2015.[43]

 
Penaethiaid y 'dirprwyaethau' yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2015 ym Mharis.

Ar ddiwedd COP 21 (21ain cyfarfod Cynhadledd y Partïon, sy'n cynnig canllaw a chyngor i'r Gynhadledd), ar 12 Rhagfyr 2015, mabwysiadwyd geiriad olaf Cytundeb Paris trwy gonsensws gan bob un o'r 195 aelod-wladwriaeth sy'n cymryd rhan yn UNFCCC a'r Undeb Ewropeaidd[44] i leihau allyriadau fel rhan o'r dull ar gyfer lleihau nwy tŷ gwydr. Yn y Cytundeb 12 tudalen,[45] addawodd yr aelodau leihau eu hallbwn carbon "cyn gynted â phosibl" a gwneud eu gorau i gadw cynhesu byd-eang "ymhell islaw 2° C "[3.6 °F].[46]

Llofnod a dod i rym

golygu
 
Llofnod gan John Kerry yn Neuadd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr Unol Daleithiau

Roedd Cytundeb Paris yn agored i'w lofnodi gan wladwriaethau a sefydliadau integreiddio economaidd rhanbarthol sy'n bartïon i'r UNFCCC (y Confensiwn) rhwng 22 Ebrill 2016 a 21 Ebrill 2017 ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.[47]

Nododd y cytundeb y byddai'n dod i rym (ac felly'n dod yn gwbl effeithiol) dim ond pe bai 55 gwlad sy'n cynhyrchu o leiaf 55% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd (yn ôl rhestr a gynhyrchwyd yn 2015)[48] yn cadarnhau, derbyn, cymeradwyo neu cytuno i'r cytundeb.[49][50]

Ar 1 Ebrill 2016, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau a Tsieina, sydd gyda’i gilydd yn cynrychioli bron i 40% o allyriadau byd-eang, ddatganiad ar y cyd yn cadarnhau y byddai’r ddwy wlad yn llofnodi Cytundeb Hinsawdd Paris.[51] Llofnododd 175 o Bartïon (174 o daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd) y cytundeb ar y dyddiad cyntaf yr oedd ar agor i'w lofnodi.[37][52] Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd mwy nag 20 o wledydd ddatganiad o’u bwriad i ymuno cyn gynted â phosibl gyda’r bwriad o ymuno yn 2016. Gyda chadarnhad gan yr Undeb Ewropeaidd, cafodd y Cytundeb ddigon o bartïon i ddod i rym ar 4 Tachwedd 2016.

Gweithredu

golygu

Mae'r broses o drosi Cytundeb Paris yn agendâu cenedlaethol a'i weithredu wedi cychwyn. Un enghraifft yw ymrwymiad y gwledydd lleiaf datblygedig (least developed countries; LDCs). Disgwylir i Fenter Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni LDC ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a elwir yn LDC REEEI, ddod ag ynni glân cynaliadwy i filiynau o bobl sydd ag egni mewn LDCs, gan hwyluso gwell mynediad at ynni, creu swyddi a chyfrannu at gyflawni y Nodau Datblygu Cynaliadwy.[53]

Tynnu'n ôl ac aildderbyn yr Unol Daleithiau

golygu

Ar 4 Awst, 2017, cyflwynodd gweinyddiaeth Donald Trump rybudd swyddogol i’r Cenhedloedd Unedig bod yr Unol Daleithiau, yr allyrrydd ail fwyaf o nwyon tŷ gwydr yn y byd, yn bwriadu tynnu allan o Gytundeb Paris cyn gynted ag y byddai’n gyfreithiol gymwys i wneud hynny.[54] Ni ellid cyflwyno'r rhybudd ffurfiol o dynnu'n ôl nes bod y cytundeb mewn grym am dair blynedd, ar 4 Tachwedd 2019.[55][56] Ar y dyddiad hwnnw, adneuodd llywodraeth yr UD yr hysbysiad tynnu’n ôl gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, adneuwr y cytundeb, a thynnodd yn ôl yn swyddogol o gytundeb hinsawdd Paris flwyddyn yn ddiweddarach pan ddaeth y tynnu’n ôl yn effeithiol.[57]

Llofnododd Joe Biden orchymyn gweithredol ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd, 20 Ionawr 2021, i'r Unol Daleithiau ail-dderbyn Cytundeb Paris.[58][59] Yn dilyn y cyfnod o 30 diwrnod a bennwyd gan Erthygl 21.3, aildderbyniwyd yr Unol Daleithiau i'r Cytundeb ar 19 Chwefror 2021.[60][61] Cymerodd Llysgennad Hinsawdd yr Unol Daleithiau John Kerry ran mewn digwyddiadau rhithwir, gan ddweud y byddai'r Unol Daleithiau yn "ennill ei ffordd yn ôl" i gyfreithlondeb ym mhroses Paris.[62] Croesawodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ddychweliad yr Unol Daleithiau fel un a adferodd y “cyswllt coll a wanhaodd y cyfan.”

Effeithiolrwydd ac ymatebion

golygu

Pan gyflawnodd y cytundeb ddigon o lofnodion i groesi'r trothwy ar 5 Hydref 2016, dywedodd Arlywydd yr UDA, Barack Obama, "Hyd yn oed os ydym yn cyrraedd pob targed ... dim ond rhan o'r man y mae angen i ni fynd y byddwn wedi'i gyrraedd." Dywedodd hefyd y bydd “y cytundeb hwn yn helpu i oedi neu osgoi rhai o ganlyniadau gwaethaf newid hinsawdd. Bydd yn helpu cenhedloedd eraill i ostwng eu hallyriadau dros amser, a gosod targedau mwy grymus wrth i dechnoleg ddatblygu, i gyd o dan system dryloywder gref sy'n caniatáu i bob gwlad werthuso cynnydd yr holl genhedloedd eraill.[63][64]

Effaith ar dymheredd

golygu
 
Senarios allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang. Os yw pob gwlad yn cyflawni eu haddewidion Cytundeb Paris, byddai cynhesu ar gyfartaledd erbyn 2100 yn dal i fod yn sylweddol uwch na'r targed 2 ° C uchaf a osodwyd gan y Cytundeb.

Nododd negodwyr y cytundeb fod y "Cyfraniadau a Fwriadwyd yn Genedlaethol a Fwriadwyd" (fel y cyfeiriwyd at NDCs ar adeg y trafodaethau) a gyflwynwyd ar adeg Cynhadledd Paris yn annigonol. Nodwyd "gyda phryder bod y lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr amcangyfrifedig yn 2025 a 2030 nad ydynt yn dod o fewn y gost leiaf 2°C Senarios ond yn hytrach yn arwain at lefel amcanol o 55 biliwn tunnell yn 2030 ", a chydnabod ymhellach" y bydd angen llawer mwy o ymdrechion i leihau allyriadau er mwyn dal y cynnydd yn y tymheredd cyfartalog byd-eang i lai na 2 °C trwy leihau allyriadau i 40 biliwn tunnell neu i 1.5 °C. " [65] 

Nid chyrhaeddodd yr un o'r allyrwyr diwydiannol mawr y targed

golygu

Mae pa mor dda y mae pob gwlad unigol i'r trywydd o gyflawni ei hymrwymiadau cytundeb Paris yn cael ei fonitro gan Fynegai Perfformiad Newid Hinsawdd, Traciwr Gweithredu Hinsawdd [66] a'r Cloc Hinsawdd.

Canfu pâr o astudiaethau yn Nature nad oedd yr un o’r prif genhedloedd diwydiannol yn 2017 yn gweithredu’r polisïau yr oeddent wedi’u haddo, ac nid oedd yr un ohonynt yn cwrdd â’u targedau lleihau allyriadau addawedig,[67] a hyd yn oed os oedd ganddynt, gyfanswm yr holl addewidion pob aelod (fel yn 2016) ni fyddai tymheredd byd-eang "ymhell o dan 2 ° C ".[68][69]

Yn ôl Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (United Nations Environment Programme UNEP), gydag ymrwymiadau hinsawdd cyfredol Cytundeb Paris, bydd tymereddau cymedrig byd-eang yn debygol o godi 3.2 °C erbyn diwedd y 21g. I gyfyngu codiad tymheredd byd-eang i 1.5 °C, rhaid i'r allyriadau blynyddol fod yn is na 25 biliwn tunnell (Gt) erbyn 2030. Gydag ymrwymiadau Tachwedd 2019, bydd allyriadau yn 56 Gt CO2e erbyn 2030. I gyfyngu codiad tymheredd byd-eang i 1.5 °C, mae angen gostyngiad allyriadau byd-eang o 7.6% bob blwyddyn rhwng 2020 a 2030.

Methiant y pedwar allyrrydd uchaf

golygu

Cyfrannodd y pedwar allyrrydd gorau o nwyon tŷ gwydr, yn nhrefn ostyngol allyriadau blynyddol Tsieina, Unol Daleithiau America, EU27 ac India, dros 55% o gyfanswm allyriadau’r byd dros y degawd diwethaf,  ac eithrio allyriadau o newid defnydd tir fel datgoedwigo. Ymhlith y pedwar allyrrydd gorau hyn, mae rhai mewn gwirionedd wedi cynyddu eu hallyriadau blynyddol: Tyfodd allyriadau Tsieina 1.6% yn 2018 i gyrraedd uchafbwynt o gyfwerth â 13.7 Gt o CO2. Gwelodd yr Unol Daleithiau, sy'n gyfrifol am 13% o allyriadau byd-eang, allyriadau yn codi 2.5% yn 2018. Er mwyn cyrraedd y targed o 1.5C, erbyn 2030 byddai'n rhaid i'r UDA leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 57-63% yn is na lefelau 2005, yn ôl adroddiad gan Traciwr Newid Hinsawdd. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn allyrru 8.5% o allyriadau byd-eang, ac wedi gweld ei allyriadau yn gostwng 1% bob blwyddyn dros y degawd diwethaf. Gostyngodd allyriadau’r UE 1.3% yn 2018. Tyfodd 7% o allyriadau byd-eang India 5.5% yn 2018.

Er bod llawer yn canmol y cytundeb, gan gynnwys Arlywydd Ffrainc François Hollande ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon,[70] daeth cryn feirniadaeth i'r wyneb. Er enghraifft, lleisiodd James Hansen, cyn wyddonydd NASA ac arbenigwr ar newid hinsawdd, ddicter bod y rhan fwyaf o'r cytundeb yn cynnwys "addewidion" neu nodau ac nid ymrwymiadau cadarn.[71] Dywedodd fod Sgyrsiau Paris yn siarad gwag, gyda dim gweithredu, dim ond addewidion ac mae'n teimlo mai dim ond treth gyffredinol ar allyriadau CO2, fyddai'n gorfodi'r allyriadau i lawr yn ddigon cyflym i osgoi effeithiau gwaethaf cynhesu byd-eang.

Gweler hefyd

golygu
  

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Paris Agreement, FCCC/CP/2015/L.9/Rev.1" (PDF). UNFCCC secretariat. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 December 2015. Cyrchwyd 12 December 2015.
  2. "New Paris climate agreement ratifications reaffirm necessity to divest and break free from fossil fuels". 350.org. 21 Medi 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2016.
  3. 3.0 3.1 Friedlingstein et al. 2019, Table 7.
  4. Article 3, Paris Agreement (2015)
  5. Article 4(9), Paris Agreement (2015)
  6. Articles 3, 9(3), Paris Agreement (2015)
  7. Bodansky, Daniel (2016). "The Legal Character of the Paris Agreement" (yn en). Review of European, Comparative & International Environmental Law 25 (2): 142–150. doi:10.1111/reel.12154. ISSN 2050-0394. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1111/reel.12154. Adalwyd 7 Mawrth 2021.
  8. Reguly, Eric; McCarthy, Shawn (14 December 2015). "Paris climate accord marks shift toward low-carbon economy". Globe and Mail. Toronto, Canada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 December 2015. Cyrchwyd 14 December 2015.
  9. Mark, Kinver (14 December 2015). "COP21: What does the Paris climate agreement mean for me?". BBC News. BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 December 2015. Cyrchwyd 14 December 2015.
  10. Davenport, Coral (12 December 2015). "Nations Approve Landmark Climate Accord in Paris". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 December 2015. Cyrchwyd 14 December 2015.
  11. "Paris climate deal: What the agreement means for India and the world". Hindustan Times. 14 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 December 2015. Cyrchwyd 14 December 2015.
  12. "Climate negotiators strike deal to slow global warming". CBS News. CBS Interactive Inc. 12 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 December 2015. Cyrchwyd 14 December 2015.
  13. "Reporting and Review under the Paris Agreement". unfccc.int. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 2020-04-20.
  14. article 14 "Framework Convention on Climate Change" (PDF). United Nations FCCC Int. United Nations. 12 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 December 2015. Cyrchwyd 12 December 2015.
  15. Hermwille, Lukas; Siemons, Anne; Förster, Hannah; Jeffery, Louise (2019). "Catalyzing mitigation ambition under the Paris Agreement: elements for an effective Global Stocktake". Climate Policy 19 (8): 988–1001. doi:10.1080/14693062.2019.1624494. ISSN 1469-3062. https://doi.org/10.1080/14693062.2019.1624494. Adalwyd 7 Mawrth 2021.
  16. Birnie P, Boyle A and Redgwell C (2009). "Chapter 3". International Law and the Environment. Oxford: OUP.
  17. Taraska, Gwynne (15 December 2015). "The Paris Climate Agreement" (PDF). Center for American Progress. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 Tachwedd 2016.
  18. Sinha, Amitabh (14 December 2015). "Paris climate talks: Differentiation of developed and developing stays, India happy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2016.
  19. "Article 6 Implementation Paper" (PDF). International Emissions Trading Association. 20 Mai 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2016.
  20. 20.0 20.1 Stavins, Robert (2016). "Market Mechanisms in the Paris Climate Agreement: International Linkage under Article 6.2". Harvard Project on Climate Agreements. http://belfercenter.ksg.harvard.edu/files/2016-10_paris-agreement-beyond_v4.pdf#page=59. Adalwyd 18 Tachwedd 2016.
  21. 21.0 21.1 Evans, Simon; Gabbatiss, John (2019-11-29). "In-depth Q&A: How 'Article 6' carbon markets could 'make or break' the Paris Agreement". Carbon Brief (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 April 2020. Cyrchwyd 2021-03-07.
  22. Kosolapova, Elena (24 Mawrth 2021). "Policy Brief: Delivering Climate Ambition Through Market Mechanisms: Capitalizing on Article 6 Piloting Activities". SDG Knowledge Hub | IISD (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-04.
  23. "Article 6 Implementation Paper" (PDF). International Emissions Trading Association. 20 Mai 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2016.
  24. Marcu, Andrei (2016). Stavins, Robert. ed. "Governance of Carbon Markets under Article 6 of the Paris Agreement". Harvard Project on Climate Agreements. http://belfercenter.ksg.harvard.edu/files/2016-10_paris-agreement-beyond_v4.pdf#page=59. Adalwyd 18 Tachwedd 2016.
  25. Hone, David (16 Mai 2016). "A Vision for Article 6 of the Paris Agreement". The Energy Collective. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2016.
  26. United Nations/ Framework Convention on Climate Change (2015) Adoption of the Paris Agreement, 21st Conference of the Parties, Paris: United Nations
  27. "The Carbon Markets of Tomorrow: Taking Shape Today". Ecosystem Market Place. Retrieved 24 Hydref 2016
  28. Kachi, Aki; Voigt, Juliane (May 2017). Building blocks for a robust Sustainable Development Mechanism (PDF). Carbon Market Watch. t. 2. Cyrchwyd 2021-04-04.
  29. Mogelgaard, Kathleen (23 December 2015). "What Does the Paris Agreement Mean for Climate Resilience and Adaptation". World Resources Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2016.
  30. Morgan, Jennifer (12 December 2015). "The Paris Agreement: Turning Point for a Climate Solution". World Resources Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2016.
  31. "Treaties, States parties, and Commentaries – Rwanda". ihl-databases.icrc.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2020. Cyrchwyd 2020-05-30.
  32. 32.0 32.1 Mogelgaard, Kathleen (24 December 2015). "When Adaptation is Not Enough". World Resources Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Hydref 2016.
  33. Taraska, Gwynne (15 December 2015). "The Paris Climate Agreement" (PDF). Center for American Progress. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 Tachwedd 2016.
  34. Taraska, Gwynne (15 December 2015). "The Paris Climate Agreement" (PDF). Center for American Progress. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 Tachwedd 2016.
  35. "Paris Agreement, FCCC/CP/2015/L.9/Rev.1" (PDF). UNFCCC secretariat. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 December 2015. Cyrchwyd 12 December 2015.
  36. "The Paris Agreement Summary" (PDF). Climate Focus. 28 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 9 Mai 2016.
  37. 37.0 37.1 "'Today is an historic day,' says Ban, as 175 countries sign Paris climate accord". United Nations. 22 April 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2017. Cyrchwyd 29 Mehefin 2017.
  38. "Paris Agreement to enter into force as EU agrees ratification". European Commission. 4 Hydref 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2016. Cyrchwyd 5 Hydref 2016.
  39. "Paris Climate Agreement Becomes International Law". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2016.
  40. "UN climate talks extend Kyoto Protocol, promise compensation". BBC News. 8 December 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 22 Mehefin 2018.
  41. 41.0 41.1 Falkner, Robert (2016). "The Paris Agreement and the new logic of international climate politics" (yn en). International Affairs 92 (5): 1107–1125. doi:10.1111/1468-2346.12708. ISSN 0020-5850. https://academic.oup.com/ia/article/92/5/1107/2688148. Adalwyd 7 Mawrth 2021.
  42. McGrath, Matt (2016-02-19). "UN climate chief Christiana Figueres to step down". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2020. Cyrchwyd 2021-03-07.
  43. "UNFCCC:Ad Hoc Working Group on the Durban Platform for Enhanced Action (ADP)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Awst 2015. Cyrchwyd 2 Awst 2015.
  44. Sutter, John D.; Berlinger, Joshua (12 December 2015). "Final draft of climate deal formally accepted in Paris". CNN. Cable News Network, Turner Broadcasting System, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 December 2015. Cyrchwyd 12 December 2015.
  45. "Framework Convention on Climate Change" (PDF). United Nations FCCC Int. United Nations. 12 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 December 2015. Cyrchwyd 12 December 2015.
  46. "'Historic' Paris climate deal adopted". CBC News. CBC/Radio Canada. 12 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 December 2015. Cyrchwyd 12 December 2015.
  47. "Article 20(1)" (PDF). UNFCCC.int. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2017.
  48. "Information provided in accordance with paragraph 104 of decision 1 CP21 related to entry into force of the Paris Agreement (Article 21)" (PDF). UNFCCC. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 21 Chwefror 2016. Cyrchwyd 23 April 2016.
  49. Article 21(1)
  50. "Historic Paris Agreement on Climate Change – 195 Nations Set Path to Keep Temperature Rise Well Below 2 Degrees Celsius". UN Climate Change Newsroom. United Nations Framework Convention on Climate Change. 12 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ionawr 2016. Cyrchwyd 14 December 2015.
  51. McGrath, Matt (31 Mawrth 2016). "Paris Climate Treaty: 'Significant step' as US and China agree to sign". Bbc.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2016. Cyrchwyd 23 April 2016.
  52. "PARIS AGREEMENT Signature Ceremony" (PDF). UNFCCC. 22 April 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Mai 2017. Cyrchwyd 22 April 2016.
  53. Gebru Jember Endalew (27 Awst 2017). "Addressing our climate reality". D+C, development and cooperation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2017. Cyrchwyd 5 Hydref 2017.
  54. "Reference: C.N.464.2017.TREATIES-XXVII.7.d (Depositary Notification)" (PDF). United Nations. 8 Awst 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Awst 2017. Cyrchwyd 14 Awst 2017.
  55. "Trump administration delivers notice U.S. intends to withdraw from Paris climate deal". POLITICO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Awst 2017. Cyrchwyd 2017-08-04.
  56. Producer, Kevin Liptak, CNN White House. "WH: US staying out of climate accord". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2017. Cyrchwyd 2017-09-17.
  57. Dennis, Brady. "Trump makes it official: U.S. will withdraw from the Paris climate accord". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 2019-12-04.
  58. Medina, Daniella. "Biden plans 17 executive orders on student loans, wearing masks and more. See the list". The Tennessean (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2021-01-20.
  59. "Paris Climate Agreement". WH.gov. The White House. January 20, 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Ionawr 2021. Cyrchwyd January 21, 2021.
  60. "United States officially rejoined the Paris Agreement". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Chwefror 2021. Cyrchwyd 20 Chwefror 2021.
  61. "US makes official return to Paris climate pact". Associated Press. 19 Chwefror 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2021. Cyrchwyd 19 Chwefror 2021.
  62. Volcovici, Valerie (2021-02-19). "It's official: U.S. back in the Paris climate club". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2021-02-20.
  63. "A sweeping global climate change agreement was ratified on Wednesday". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2016. Cyrchwyd 5 Hydref 2016.
  64. "Remarks by the President on the Paris Agreement". White House. 5 Hydref 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2017. Cyrchwyd 3 Mehefin 2017.
  65. "Paris Agreement, Decision 1/CP.21, Article 17" (PDF). UNFCCC secretariat. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 1 April 2016. Cyrchwyd 6 April 2016.
  66. "Countries | Climate Action Tracker". climateactiontracker.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mawrth 2020. Cyrchwyd 23 Awst 2019.
  67. Victor, David G.; Akimoto, Keigo; Kaya, Yoichi; Yamaguchi, Mitsutsune; Cullenward, Danny; Hepburn, Cameron (3 Awst 2017). "Prove Paris was more than paper promises". Nature 548 (7665): 25–27. Bibcode 2017Natur.548...25V. doi:10.1038/548025a. PMID 28770856.
  68. Rogelj, Joeri; den Elzen, Michel; Höhne, Niklas; Fransen, Taryn; Fekete, Hanna; Winkler, Harald; Schaeffer, Roberto; Sha, Fu et al. (30 Mehefin 2016). "Paris Agreement climate proposals need a boost to keep warming well below 2 °C". Nature 534 (7609): 631–639. doi:10.1038/nature18307. PMID 27357792. http://pure.iiasa.ac.at/id/eprint/13307/1/nature18307_proof1.pdf. Adalwyd 9 December 2019.
  69. Mooney, Chris (29 Mehefin 2016). "The world has the right climate goals – but the wrong ambition levels to achieve them". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2016. Cyrchwyd 29 Mehefin 2016.
  70. "Historic Paris Agreement on Climate Change – 195 Nations Set Path to Keep Temperature Rise Well Below 2 Degrees Celsius". UN Climate Change Newsroom. United Nations Framework Convention on Climate Change. 12 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ionawr 2016. Cyrchwyd 14 December 2015.
  71. Milman, Oliver (12 December 2015). "James Hansen, father of climate change awareness, calls Paris talks 'a fraud'". The Guardian. London, England. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 December 2015. Cyrchwyd 14 December 2015.