Gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol)
Unrhyw endid sydd yn chwarae rhan mewn cysylltiadau rhyngwladol yw gweithredydd[1] neu actor. Defnyddir y term yn eang yn yr oes fodern gan ei fod yn osgoi cyfyngiadau'r term gwladwriaeth ac yn cydnabod bod nifer o endidau bellach yn dylanwadu ar gysylltiadau rhyngwladol[2] a bod yr hen safbwynt gwladwriaeth-ganolog wedi newid.
Bodolir gwahanol ddamcaniaethau i geisio ddiffinio'r system ryngwladol yn nhermau gweithredyddion; arloesol yn y maes hwn oedd dadl Oran Young o blaid model gweithredydd-cymysg yn y 1970au. Yn fwy penodol, mae ysgolheigion ers hynny wedi awgrymu dosbarthu gweithredyddion yn ôl y tasgau maent yn eu perfformio, pwy neu beth mae'r tasgau hyn yn effeithio arnynt, neu eu lefel o ymreolaeth (yn hytrach na'r hen fodel o weld gweithredyddion rhyngwladol yn nhermau eu sofraniaeth).[2]
Mae gweithredyddion yn cynnwys:
- gwladwriaethau sofran, megis Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mecsico, a Thaleithiau Ffederal Micronesia
- unigolion, megis y Pab ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
- mudiadau, megis y mudiad gwrth-globaleiddio
- cwmnïau trawswladol, megis British Petroleum
- sefydliadau anlywodraethol (NGOau), megis Amnest Rhyngwladol
- sefydliadau goruwchgenedlaethol, megis yr Undeb Ewropeaidd
- sefydliadau rhynglywodraethol (IGOau), megis y Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd, a NATO
- sefydliadau rhyngwladol eraill sy'n cynrychioli wahanol wladwriaethau (sydd yn debyg iawn i IGOau ond yn gyfreithiol wahanol), megis yr G8 a'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Termau Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Prifysgol Aberystwyth.
- ↑ 2.0 2.1 Evans a Newnham, t. 4–5.
Ffynhonnell
golygu- Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998).