Anllywodraeth (cysylltiadau rhyngwladol)

Un o gysyniadau hanfodol ond dadleuol[1] cysylltiadau rhyngwladol yw anllywodraeth y system ryngwladol, sef absenoldeb awdurdod canolog i wleidyddiaeth y byd. Nid yw anllywodraeth yn golygu anhrefn, ond yn hytrach cyflwr ffurfiol y system ryngwladol o ganlyniad i annibyniaeth pob gwladwriaeth ar ei gilydd.[2] Heb unrhyw rym goruchaf i orfodi rheolau ar draws y byd, mae'r drefn ryngwladol yn dibynnu ar normau ac arferion cyffredin rhwng yr amryw wladwriaethau, ac atelir anhrefn drwy ffurfio a chynnal cyfundrefnau rhyngwladol, cydbwysedd grym, neu hegemoni.[3] Er bod sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig, sydd yn ymddangos fel gweithredyddion ar lefel uwch na gwladwriaethau unigol, yn y bôn dim ond y wladwriaeth sydd yn sofran. Mewn sefydliad goruwchgenedlaethol, er enghraifft yr Undeb Ewropeaidd, mae aelod-wladwriaethau yn ildio rhywfaint o'u sofraniaeth i'r llywodraeth honno; serch, gwneir hynny drwy gydsyniad ac mae'r wladwriaeth yn cadw ei hawl i gefnu ar yr undeb.

Anllywodraeth
Enghraifft o'r canlynolcysyniad, statism, self-refuting idea Edit this on Wikidata
Rhan oDamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol Edit this on Wikidata

Cyflwynwyd y cysyniad o "anllywodraeth ryngwladol" gan y gwyddonydd gwleidyddol Seisnig Goldsworthy Lowes Dickinson yn ei gyfrol The International Anarchy, 1904–1918 (1926). Mae anllywodraeth y system ryngwladol yn ganolbwynt i lyfr yr ysgolhaig Hedley Bull, The Anarchical Society (1977), oedd yn manylu ar fodel yr Ysgol Seisnig o gymdeithas ryngwladol.

Mae academyddion yn anghytuno dros ba elfen o lywodraeth yn union sydd ar goll yn y system ryngwladol sydd yn ei diffinio fel anllywodraeth. Dywed rhai, gan ddyfynnu diffiniad Weber o'r wladwriaeth, taw sefydliad canolog gyda monopoli ar ddefnydd grym sydd ar goll.[2]

Ffynonellau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Evans a Newnham, t. 18.
  2. 2.0 2.1 Hurd, t. 20.
  3. Thomas Diez, Ingvild Bode ac Aleksandra Fernandes da Costa, Key Concepts in International Relations (Llundain: SAGE, 2011), t. 1.

Llyfryddiaeth golygu

  • Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998).
  • Ian Hurd, "Anarchy" yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, golygwyd gan Martin Griffiths (Routledge, 2005).