Cerrig Arthur
Abermaw
Cerrig Arthur

Cylch cerrig a heneb gynhanesyddol o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy Cerrig Arthur, ger Abermaw, Gwynedd; cyfeirnod OS: SH631188. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: ME114.[1]

Cerrig Arthur.

Dim ond tair carreg sy'n sefyll heddiw. Mae'n un o sawl heneb yng Nghymru a gwledydd Prydain a enwir ar ôl y Brenin Arthur, er nad oes chwedl sy'n ei gysylltu'n uniongyrchol â'r safle.

Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid I ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.

Cyfeiriadau golygu