Cylch Cerrig Moel Tŷ Uchaf
cylch cerrig ger Llandrillo, Sir Ddinbych
Cylch cerrig ger Llandrillo, Sir Ddinbych ydy Cylch Cerrig Moel Tŷ Uchaf; cyfeirnod OS: SJ05603717 ar fryncyn o'r un enw, ar ochr orllewinol Mynyddoedd y Berwyn.[1] Credir iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer seremoniau crefyddol neu o bosibl ar gyfer claddu'r meirw gan fod pant bychan yn y canol. Mae'n dyddio o Oes yr Efydd (tua diwedd y 3ydd fileniwm CC).[2] Diamedr y cylch ydy 11 metr ac mae'r garreg mwyaf yn 92 cm o uchder.
Enghraifft o'r canlynol | cist, cylch cerrig |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Ddinbych |
Yn yr un lle ceir pedwar "cist" carreg sydd fwy na thebyg yn dyddio'n ôl i Oes y Cerrig neu efallai ychydig hwyrach.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan CPAT
- ↑ Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 32.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-16. Cyrchwyd 2010-08-30.