Cylch Cerrig Rhos-y-Beddau
Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig o Oes yr Efydd ydy cylch cerrig Rhos-y-Beddau, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys; cyfeirnod OS: SJ058302. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: MG032.[1]
Math | cylch cerrig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanrhaeadr-ym-Mochnant |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.86°N 3.39°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MG032 |
Disgrifiad
golyguSaif yr heneb ger cymer dwy ffrwd. Ceir dwy res o feini sy'n arwain yn gyfochrog i'r cylch ei hun. Mae henebion o'r fath yn brin yng Nghymru; ceir enghraifft arall ym Mhowys yn y Cerrig Duon. Nid yw cerrig y ddwy res yn uchel. Ceir 15 yn y rhes ogleddol a 24 yn y rhes ddeheuol gyda bylchau o tua 3 metr rhyngddynt. Mae'r meini hyn yn arwain i'r gorllewin lle ceir y cylch cerrig ei hun. Ceir naw carreg isel yn y cylch ond bu rhagor yno ar un adeg am fod bwlch sylweddol yn ochr orllewinol y cylch.[2]
Mae'n debyg y defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 90.