Mae cymal synofaidd, a elwir hefyd yn diarthrosis, yn ymuno'r esgyrn â chapsiwl cymal ffibrog. Dyma'r math mwyaf cyffredin a mwyaf symudol o gymal yng nghorff mamal. Fel gyda'r rhan fwyaf o gymalau eraill, mae cymalau synofaidd yn cyflawni symudiad wrth bwynt cyswllt yr esgyrn ymgymalu.

Cymal synofaidd
Enghraifft o'r canlynoljoint type, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathcymal, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan ocymal Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssynovial cavity Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythur golygu

  • Cymal yw man lle mae dau neu fwy o esgyrn yn cyfarfod. Mae esgyrn wedi’u cysylltu o amgylch y cymal.[1]
  • Mae meinweoedd cysylltiol yn cynnwys gewynnau, cartilag a thendonau.
  • Mae gewynnau’n dal y cymal gyda’i gilydd sy’n rhoi sefydlogrwydd i gymalau.
  • Mae cartilag ar bennau’r esgyrn a lle mae cymalau’n cyfarfod.
  • Mae tendonau’n cysylltu cyhyrau â’r sgerbwd.

Mathau golygu

Mae gwahanol fathau o gymalau synofaidd yn galluogi symudiadau i wahanol raddau, maent yn cynnwys:

  • Colfach - y benelin a’r pen-glin. Mae cymalau colfach yn eich galluogi i symud y benelin a’r pen-glin mewn un cyfeiriad yn unig. Maen nhw’n galluogi’r cymal i gael ei blygu a’i estyn.
  • Pelen a chrau - yn yr ysgwydd a’r glun ac yn galluogi symudiad ym mhob cyfeiriad bron iawn. Mewn cymal pelen a chrau, mae ochr crwn un asgwrn (pêl) yn ffitio ym mhant bach crwn asgwrn arall (crau).
  • Colynnog - yn y gwddf, rhwng y ddau fertebra uchaf. Mae’n galluogi symudiad cylchdro yn unig, fel symud eich pen o un ochr i’r llall.[1]

Gweler Hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Ffisoleg ymarfer corff, pennod 2" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |access-date= (help)
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Ffisioleg Ymarfer Corff, adnodd dysgu ar wefan CBAC. Mae gan testun y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.