Cymanfa bwnc

cyfarfod anghydffurfiol Cristnogol

Cynulliad neu wasanaeth Cristnogol sy'n canolbwyntio ar lafarganu a thrafod adnodau o'r Beibl er mwyn ei ddysgu a'i ddeall yw cymanfa bwnc. Yn ôl traddodiad, mae'r adnodau o'r Beibl, sef y 'pwnc', yn cael ei lafarganu ac yna ei 'holi', gan weinidog fel arfer, ar ffurf cyfres o gwestiynau ac atebion. Byddai'r adnodau wedi eu dysgu a'u hastudio o flaen llaw. Weithiau, bydd unigolyn yn cael ei wahodd i holi'r pwnc mewn ymarfer cyn y gymanfa ei hun.

Er bod y traddodiad yn cael ei gysylltu'n bennaf â'r enwadau Anghydffurfiol, tybir y gellir ei olrhain yn ôl i gyfnod cyn teyrnasiad Harri VIII ac ymraniad yr Eglwys Anglicanaidd oddi wrth yr Eglwys Gatholig.[1] Erbyn y 19g, roedd cymanfaoedd pwnc yn cael eu cynnal gan Ysgolion Sul i helpu plant i ddod yn gyfarwydd â chynnwys y Beibl.[2] Byddai'n fodd o addysgu'r Beibl i'r rheini nad oeddent yn gallu darllen neu oedd heb Feibl. [3]

Mae'r llafarganu mewn 4 llais sef SATB, gydag adnodau gwahanol yn cael ei dyfarnu i wahanol leisiau.[3]

Y Gymanfa Bwnc bresennol

golygu

Erbyn heddiw, prin iawn yw'r cymanfaoedd pwnc sy'n cael eu cynnal o'u cymharu â chymanfaoedd canu, yn bennaf mae'r traddodiad dal i ddigwydd yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae cymanfa bwnc yn ddigwyddiad blynyddol yn nifer o eglwysi Annibynnol y ddwy sir gydag eglwysi'r plwyf neu ardal benodol yn dod at ei gilydd un ddydd Sul i lafarganu’r pwnc, cael ei 'holi' gan weinidog ac wedyn byddai canu anthemau'r gymanfa (emynau neu cân Gristnogol benodol).

Rhannwyd y dydd yn dair rhan gyda phlant yn cymryd rhan drwy adrodd cynhyrchiad byddai'r ysgol Sul wedi'i pharatoi, a oedd yn seiliedig fel arfer ar y Beibl neu neges Gristnogol. Byddai hefyd te yn cael ei ddarparu, weithiau tair gwaith y dydd ar gyfer y wahanol sesiynau.

Mae'r llafarganu yma wedi ymddangos yn rhai cynyrchiadau teledu a ffilm fel Y Gwyll a Yr Ymadawiad, o ganlyniad i'r sain sydd yn gallu teimlo'n arswydus.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Capel: Y Pwnc dan sylw". 2006-06-04. Cyrchwyd 2018-09-19.
  2. Mandelbrote, Scott; Ledger-Lomas, Michael (2013). Dissent and the Bible in Britain, C.1650-1950. OUP Oxford. ISBN 9780199608416.
  3. 3.0 3.1 "Watch Capeli". BFI Player (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-02.