Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Macedonia

corff llywodraethol pêl-droed gweriniaeth Gogledd Macedonia

Ffederasiwn Pêl-droed Macedonia' [1] (Macedoneg: Фуботлска Федерација на Macedonia; Albaneg: Federata e Futbollit të Maqedonisë) yw enw swyddogol corff llywodraethu pêl-droed yng ngwladwriaeth Ngogledd Macedonia (a alwyd yn "Cyn Weriniaeth Macedonia Iwgoslafia" hyd nes Ionawr 2019 [2]). Mae wedi'rpencadlys leoli yn y brifddinas, Skopje ac mae'n aelod o UEFA a FIFA. Dyma'r corff sy'n trefnu pencampwriaethau cenedlaethol gan gynnwys Uwch Gynghrair Gogledd Macedonia, Cwpan Macedonia ac yn cydlynu gweithgareddau tîm dynion cenedlaethol, menywod ac ieuenctid Gogledd Macedonia.[3][4][5]

Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Macedonia
UEFA
Association crest
Sefydlwyd1926/1948
Aelod cywllt o FIFA1994
Aelod cywllt o UEFA1994
LlywyddMuamed Sejdini
Gwefanffm.mk

Chwaraewyd y gêm swyddogol gyntaf ar 20 Ebrill, 1919 rhwng tîm Byddin Lloegr a thîm pêl-droed ieuenctid Skopje. Yn 1978, er anrhydedd a chof yr ornest honno, ac ar achlysur 70 mlynedd o bêl-droed ym Macedonia, gosodwyd cofeb ar y man lle cynhaliwyd yr ornest. FC Vardar o Skopje yw'r clwb pêl-droed cofrestredig cyntaf, sy'n dyddio o 1912.

Ffurfiwyd y Ffederasiwn ar 18 Rhagfyr 1926, gyda'r cyfarfod cyffredinol sefydlu yn cael ei gynnal ym mwyty y "Arwr Marw Anhysbus" bwyty yn ninas Skopje. Ailadeiladwyd y ffederasiwn ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar 14 Awst 1949 yn Skopje (ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd yr adran bêl-droed gyntaf fel rhan o Gymdeithas Chwaraeon Dinas Skopje, y rhannodd ohoni ar 16 Awst 1948). Rhwng 1949 a 2002, fe'i galwyd yn From 1949 to 2002, "Gymdeithas Bêl-droed Macedonia" (Фудбалски Сојуз на Македонија / Fudbalski Sojuz na Makedonija neu ФСМ/FSM). Llywydd cyntaf y ffederasiwn newydd ei ffurfio oedd Lyubisav Ivanov-Jingo.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd chwaraeodd y detholiad o glybiau pêl-droed Macedoneg yn erbyn timau Byddin yr Almaen a Bwlgaria. Roedd llawer o'r chwaraewyr Macedoneg hefyd yn chwarae i dîm cenedlaethol Bwlgaria. Ar 16 Awst 1948 a sefydlir Cymdeithas Bêl-droed Macedonia ar 14 Awst, 1949 fel rhan annatod i Gymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia. Ar 7 Chwefror, 1993 mae Cymdeithas Bêl-droed Macedonia yn trefnu'r Cynulliad annibynnol cyntaf.

Ym 1994 daeth Cymdeithas Bêl-droed Macedonia yn aelod cysylltiedig o FIFA ac UEFA. Yn 2003 ailenwyd Cymdeithas Bêl-droed Macedonia yn Ffederasiwn Pêl-droed Macedonia - FFM.[6]

Mae logo'r ffederasiwn wedi esblygu dros amser. Ar 22 Mawrth 2014 cyflwynwyd logo newydd.[7]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Mae Macedonia yn chwilio am hyfforddwr" Archifwyd 2019-08-11 yn y Peiriant Wayback novasports.gr
  2. https://www.bbc.co.uk/news/world-europe-46846231
  3. "Football Federation of North Macedonia". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-19. Cyrchwyd 24 April 2019.
  4. "North Macedonia". UEFA. Cyrchwyd 24 April 2019.
  5. "UEFA President meets Football Federation of North Macedonia President". UEFA. 15 April 2019. Cyrchwyd 24 April 2019.
  6. http://ffm.mk/en/history
  7. Одржано Генерално собрание на ФФМ[dolen farw] vesti.mk